Diwrnod ym mywyd: Dani Robertson

Diwrnod ym mywyd: Dani Robertson

  • *Dani Robertson
    Dani Robertson

Cyflwyniad

Dani Robertson ydw i, Swyddog Awyr Dywyll y Bartneriaeth Prosiect Nos rhwng Parc Cenedlaethol Eryri, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Sir Fôn a Phen Llŷn.

Disgrifiad swydd

Rwy’n diogelu’r tywyllwch! Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ddigon ffodus i fod ag awyr dywyll hyfryd; sy’n golygu y gallwch ddod yma i wylio’r sêr heb lawer o ymyrraeth gan lygredd golau. Fy swydd i yw sicrhau fod pobl yn gwybod pa mor bwysig yw ein hawyr dywyll a’n bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w diogelu.

Oeddech chi’n gwybod?

Cylchgrawn BBC Sky at Night

Fy niwrnod yn y gwaith

Rwy’n dueddol o ddechrau fy niwrnod ychydig yn hwyrach na phawb arall os ydw i wedi bod allan yn gwylio’r sêr y noson gynt! Rwy’n dechrau fy niwrnod drwy ateb negeseuon e-bost, sy’n amrywio o gynnig cyngor am olau i gynghorau cymuned a cheisiadau cynllunio, i drefnu digwyddiadau ac ateb cwestiynau’r wasg, a phob math o bethau eraill!

Rwy’n derbyn ceisiadau i wneud cyflwyniadau i glybiau a chymdeithasau’n rheolaidd, felly rwy’n gwneud y rhain sawl gwaith yr wythnos (ond mae’r rhain yn cael eu cynnal ar Zoom ar hyn o bryd). Yn dilyn hynny, rwy’n mynd i ymweld ag eiddo o bryd i gilydd, i wirio’r golau a sicrhau nad ydynt yn cael effaith negyddol ar rywogaethau’r nos, megis ystlumod a thylluanod. Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o nosweithiau’n cynnal digwyddiadau gwylio’r sêr o’n harsyllfa symudol gwych. Ar y ffordd adref, os yw’r amodau’n caniatáu, rwy’n monitro’r awyr dywyll i sicrhau ein bod yn cadw llygredd golau draw.

A oes anfantais?

Nid wyf yn edrych ymlaen at glywed am adar môr yn mynd yn sownd yn sgil goleuadau llachar, neu enghreifftiau o ystlumod yn gaeth i’w clwydi o ganlyniad i ddulliau goleuo gwael.

Beth rydw i’n ei garu

Rwyf wrth fy modd yn addysgu pobl am hud ein hawyr dywyll a pham fod y tywyllwch yn bwysig i’n hiechyd, ein lles a’n bywyd gwyllt.

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?