Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

head torch in dark skies

Partneriaeth Gogledd Cymru yn sicrhau cyllid i fynd i’r afael â llygredd golau artiffisial

Mae partneriaeth ledled Gogledd Cymru wedi llwyddo i sicrhau cyllid i fynd i’r afael ag effeithiau ecolegol golau artiffisial ar draws tirweddau dynodedig Gogledd Cymru.

Ar ran partneriaeth Prosiect NOS, bu Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn llwyddiannus yn eu cais o’r enw Rhwydweithiau’r Nos, a gyflwynir gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. 

Dyfarnwyd £247,225 i’r bartneriaeth, sy’n cynnwys Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Tirwedd Genedlaethol Ynys Môn, Tirwedd Genedlaethol Llŷn ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, i fynd i’r afael â phroblemau sy’n cael eu hachosi gan Olau Artiffisial yn y Nos sy’n newid ymddygiad rhywogaethau ac yn bygwth bioamrywiaeth.

What can we see in the dark in Clwydian Range and Dee Valley?

Mae tywyllwch yn rhan hanfodol o’n treftadaeth naturiol ac yn hanfodol ar gyfer dyfodol dros 30% o fertebriaid a 60% o infertebratau, gan fod y rhan fwyaf o ffurfiau bywyd yn cael eu llywodraethu gan rythmau biolegol sy’n cael eu rheoleiddio gan olau.

Fodd bynnag, mae Golau Artiffisial yn y Nos yn tarfu ar y cylchoedd hyn. Bydd prosiect Rhwydweithiau’r Nos yn nodi parthau llygredd allweddol trwy fapio golau, cynnal arolygon ecolegol a chydweithio â thirfeddianwyr, cymunedau ac asiantaethau i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gweithgareddau ôl-osod a chysgodi yn y dyfodol i leihau’r ymyrraeth.

Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi’r gwaith o greu dwy swydd newydd. Bydd un Swyddog Rhwydweithiau Ecolegol yn y Nos yn cynorthwyo datblygiad y cynlluniau hyn i amddiffyn y tywyllwch naturiol sy’n hanfodol ar gyfer iechyd yr ecosystem, ac un Swyddog Ymgysylltu â’r Gynulleidfa sydd â’r dasg o godi ymwybyddiaeth a chefnogi newid ymddygiad trwy ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: 

Rydym ni wrth ein bodd ein bod ni wedi sicrhau’r cyllid hwn i fynd i’r afael â’r problemau sydd ynghlwm â llygredd golau. Ni fyddai sicrhau’r cyllid hwn wedi bod yn bosibl heb waith caled a chydweithrediad partneriaeth Prosiect NOS sy’n cynnwys y tirweddau dynodedig ledled Gogledd Cymru. Bydd y cyllid hwn yn mynd yn bell i amddiffyn ein rhywogaethau, drwy gynnal profion ac arolygon hanfodol a chodi ymwybyddiaeth o’r effeithiau posibl y gall Golau Artiffisial yn y Nos eu cael”.

Heritage Lottery Fund and Welsh Government logo