Milltiroedd Cymunedol
Mae mynd am dro yn aml yn golygu cerdded yn hamddenol ac edrych ar y golygfeydd deniadol!
Mae ein llwybrau Milltiroedd Cymunedol wedi’u dylunio gyda chymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd mewn golwg. Mae’n cymryd tua dwy awr i’w cwblhau ac yn eich cyflwyno chi i fusnesau lleol a llwybrau trafnidiaeth ar hyd y ffordd yn ogystal â datgelu trysorau cudd a gwella eich ffitrwydd (mae nifer y calorïau y byddwch yn eu llosgi ar bob taith wedi eu cyfrif).
Rydym wedi gwella’r llwybrau oedd eisoes yn bodoli gyda chamfeydd, gatiau a phontydd newydd ac wedi rhoi arwyddion arnynt i’w gwneud yn haws i’w ddilyn. Mae taflenni ar gael sy’n cynnwys map a gwybodaeth am yr hyn y byddwch yn ei weld ar y ffordd yn ogystal â syniadau ar gyfer cludiant lleol i fynd a chi at fan cychwyn y daith ac oddi yno wedyn ar y diwedd.
Llandyrnog
Taith gerdded gylchol hyfryd 4.3 milltir o amgylch pentref Llandyrnog, sy’n cynnwys rhan o Ddyffryn Clwyd nas chwiliwyd fawr gan neb.
Tremeirchion
Taith gylchol o Dremeirchion sy’n cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa gyda phanoramâu eang o Ddyffryn Clwyd.
Llwybr Bryn Heulog, Llangollen
Taith gylchol drawiadol 4.5 milltir o Llangollen sy’n dringo’n ddigon i ddarparu golygfeydd gwych o Fro Llangollen, yn ogystal â mwynhau llonyddwch y gamlas.
Graigfechan
Cylchdaith o bentref Graigfechan, sydd yn cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ac yn cynnwys golygfeydd o Ddyffryn Clwyd a thu hwnt.
Llangynhafal and Hendrerwydd
Dewis o gylchdeithiau diddorol, sydd yn cynnwys Dyffryn Clwyd, Parc Gwledig Moel Famau a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Mae’r llwybrau’n mynd heibio nifer o nodweddion hanesyddol, gan gynnwys wyth ffermdy gwag, ffynnon sanctaidd hudol a’r eglwys trawiadol Sant Cynhafal.
Ceidiog
Taith odidog o Landrillo ar draws ffermdir, coetir, llwybrau glan yr afon a chyfle i weld golygfeydd gwych ar hyd dyffryn Ceidiog.
Yr Hen Rheilffordd
Mwynhewch tro hamddenol yn Nyffryn Dyfrdwy, ar hyd yr hen rheilffordd a’r gamlas ger Traphont Ddwr gwefreiddiol Pontcysyllte.