Llwybrau Dydd
Llwybr Gogledd y Berwyn
Mae’r llwybr llinol 13 milltir o hyd hwn yn dringo mynyddoedd gwyllt Gogledd y Berwyn i’r de o Afon Dyfrdwy. I gerdded y llwybr cyfan, dechreuwch yng Nghorwen neu’n Llangollen. Mae’r ddwy dref ar briffordd yr A5 (Llundain – Gaergybi).
Mae’r llwybr wedi’i arwyddo, a’i rannu i bum adran sy’n dechrau ac yn gorffen mewn mannau hygyrch. Mae hwn yn lwybr heriol ar gyfer cerddwyr profiadol ac mae’n hanfodol bod cerddwyr yn meddu ar esgidiau cerdded priodol, dillad sy‘n atal dŵr a Map Explorer yr Arolwg Ordnans: “255 Llangollen a’r Berwyn” – Graddfa Fawr 1:25,000 (clawr oren), er mwyn dilyn y llwybr yn fanylach.
Llwybr Dyffryn Dyfrdwy
Mae’r llwybr rhanbarthol hwn yn dilyn Afon Dyfrdwy rhwng trefi hyfryd Corwen a Llangollen. Er i’r canllaw ddechrau yng Nghorwen, mae modd cerdded Llwybr Dyffryn Dyfrdwy o unrhyw gyfeiriad.
Mae’r llwybr cyfan wedi’i arwyddo, a’i rannu i bum adran sy’n dechrau ac yn gorffen mewn mannau hygyrch. Mae’n syniad da i fynd â Map Explorer yr Arolwg Ordnans – Graddfa Fawr (clawr oren) naill ai “255 Llangollen a’r Berwyn” neu “256 Llangollen a Wrecsam, sy’n dangos y llwybr yn fanylach – yn ogystal â mannau eraill i ymweld â nhw ar hyd y ffordd.