AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Safleoedd treftadaeth

Mae llawer o’n safleoedd treftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol. Ac mae rhai yn cymryd eu lle ar lwyfan y byd - yn cynnwys un tirnod o beirianneg Sioraidd sydd, yn ôl UNESCO, gyfwerth â’r Pyramidiau neu’r Taj Mahal.

Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte

Bu Dyffryn Dyfrdwy yn llwybr cyswllt pwysig erioed ac mae’n dangos tystiolaeth o ddyfeisiau newydd olynol yn hanes trafnidiaeth. Efallai mai’r mwyaf nodedig ydy cangen Llangollen o Gamlas y Shropshire Union, a adeiladwyd gan Thomas Telford a’i hagor yn 1805.

  Pontcysyllte Aquaduct

O’i tharddiad wrth Raeadrau’r Bedol mae’r gamlas yn dilyn ochr ogleddol y dyffryn cyn croesi’r Ddyfrdwy wrth ddyfrbont ddramatig Pontcysyllte - campwaith arloesol o beirianneg a phensaernïaeth fetel anferthol.

Gyda’i llysenw “yr afon yn yr awyr”, mae’r ddyfrbont yn dal i fod y groesfan cychod camlas forwyol dalaf yn y byd. Mae’n 126 troedfedd o uchder a 1,007 troedfedd o hyd ac yn ei hanfod mae’n gafn haearn bwrw enfawr sy’n cael ei ddal i fyny gan 18 o bileri carreg enfawr ac a wnaed yn ddyfrglos gan frethyn Cymreig, plwm a siwgr berwedig.

Yn 2009, gwnaeth UNESCO Ddyfrbont Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth y Byd – ynghyd ag 11 milltir o gamlas yn ymestyn o ddyfrbont gynharach Telford yn Y Waun i Raeadrau’r Bedol yn Llangollen.

I fyny’r afon o Langollen, mae Dyffryn Dyfrdwy’n culhau i dorri rhwng mynyddoedd Llandysilio a’r Berwyn. Ym mhentref Berwyn mae dilyniant hanesyddol o lwybrau trafnidiaeth yn tyrru trwy’r bwlch: yr afon, y gamlas, y rheilffordd a phriffordd A5 Llundain - Caergybi Telford.

Castell Y Waun

Wedi’i gwblhau yn 1310, Y Waun ydy’r castell Cymreig olaf o deyrnasiad Edward I y mae rhywun yn dal i fyw ynddo heddiw – bu rhywun yn byw ynddo’n ddi-dor am y 700 mlynedd ddiwethaf.

Mae’r nodweddion o’r hanes hir hwn yn cynnwys y tr a’r dwnsiwn canoloesol, yr Oriel Hir o’r ail ganrif ar bymtheg, ystafelloedd seremonïol crand y 18fed ganrif, ystafell y gweision a’r golchdy hanesyddol.

Mae’r gaer fawreddog hon ar y Goror gyda’i thyrau crwn yn edrych dros naw sir. Mae’i gerddi – a ddyfarnwyd unwaith yn rhai gorau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – yn cynnwys coed yw wedi’u tocio, borderi blodau, gerddi llwyni a chreigerddi.

Mae’r parcdir yn darparu cynefin i infertebratau prin a blodau gwyllt ac mae’n cynnwys llawer o goed aeddfed a hefyd giatiau haearn gyr ysblennydd, a wnaethpwyd yn 1719 gan y brodyr Davies.

Abaty Glyn y Groes

Valle Crucis

Wedi’i amgylchynu gan fryniau, mae Abaty Glyn y Groes ymhlith mannau hanesyddol prydferthaf Sir Ddinbych, a dyma, o bell, y fynachlog ganoloesol orau ei chyflwr yng Ngogledd Cymru. Wedi’i sefydlu “ymhell o fannau cyniwair dynion” yn 1201 gan dywysog Cymreig lleol, Sistersiaid gwyn eu gwisg oedd y mynachod. Roedd Glyn y Groes unwaith yn abaty ail gyfoethocaf Cymru ar ôl Tyndyrn a bu’r mynachod yn byw yno tan ddiddymiad y mynachlogydd yn 1537.

Ymhlith y llu o nodweddion cofiadwy mae blaen gorllewinol yr eglwys, sy’n parhau’n aruchel, gyda’i “ffenestr ros” uwchben ffenestri lansed pigfain triphlyg, a’r cabidyldy gyda’i fowt brydferth. Yn werth ei weld hefyd mae hundy’r mynachod a’r llyn pysgod mynachaidd pictiwrésg y tu draw i’r adfeilion helaeth.

Ond nid gwers mewn pensaernïaeth eglwysig ganoloesol yn unig ydy Glyn y Groes. Mae ymweliad â’r safle cyfareddol hwn yn dwyn bywydau’r mynachod Sistersaidd i gof – ffermwyr defaid llwyddiannus a chefnogwyr brwd y diwylliant Cymreig.

Parc Gwledig T Mawr

Mae Parc Gwledig T Mawr wedi’i leoli ar fferm gerllaw Traphont Cefn ac Afon Dyfrdwy ble gall teuluoedd weld anifeiliaid fel mulod, moch a geifr a bwydo’r hwyaid a’r ieir buarth.

Mae llawer rhywogaeth o blanhigion gwyllt ac anifeiliaid yn ffynnu ar dir ble na ddefnyddir unrhyw gemegau neu blaleiddiaid ac yn yr haf mae’r dolydd gwair traddodiadol yn llawn lliw.

Gellwch ddod â phicnic, mynd am dro bach ar gylch neu gychwyn ar sawl taith gerdded hirach yn cynnwys Llwybr Treftadaeth Cefn (rhan o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa) neu Daith Gerdded Camlas Llangollen.

Footer

Gwnaed gan Splinter