Tystiolaeth o Ddiwydiant

Tystiolaeth o Ddiwydiant

  • Traphont Cefn Viaduct
    Traphont Cefn Viaduct

Mae diwydiant wedi datblygu’r tirwedd hwn ers canrifoedd. Mae Dyffryn Llangollen yn cyflwyno cyfuniad mor anhygoel o dirffurfiau hollol naturiol a nodweddion gwneud hynafol a modern ac wedi’i gynnwys yn y Gofrestr Tirweddau Hanesyddol.

Oeddech chi’n gwybod?

Cafodd sawl ystâd parcdir mawr eu datblygu (gan gynnwys Llwyn Aur a Cholomendy) o ganlyniad i’r cyfoeth a ddatblygwyd drwy ehangu diwydiannau lleol, yn arbennig mwyngloddio plwm. Mae gweddillion helaeth y gweithgaredd mwyngloddio hwn yn parhau’n weladwy yn yr ardaloedd calchfaen. O’r pedwar peiriandy Cernywaidd sy’n weddill yn Sir Ddinbych, mae tri o fewn yr AHNE a’r pedwerydd y tu allan.

Pŵer Dŵr

Roedd dŵr yn cael ei harnesio ar hyd yr ardal i ddarparu pŵer – ar yr Alyn ar gyfer mwyngloddio plwm ac ar y Wheeler ar gyfer melinau corn, gwaith plât tun, melinau papur a melinau llifio. Mae’n ymddangos bod melinau corn dŵr wedi bodoli ers y 13eg ganrif, gan gynnwys y sawl oedd yn eiddo i Abaty Glyn y Groes. Roedd melinau corn a melinau ar gyfer bwyd anifeiliaid yn parhau i weithio yn y 18fed, 19eg ac mewn rhai achosion yr 20fed ganrif yn Llangollen a Threfor.

Mae gan y diwydiant tecstiliau yn yr ardal yr un gwreiddiau cynnar a daeth Dyffryn Dyfrdwy yn ardal gweithgynhyrchu tecstiliau pwysig yn ystod y 19eg ganrif, pan gafodd melinau mawr eu hadeiladu yn debyg i’r rhai yn Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog. Caeodd yr olaf o’r dair melin yn Llangollen yn 1960.

Mwyngloddio metel

Mae’r tirlun ar ochr gogleddol o Fynydd Rhiwabon yn cynnwys olion helaeth o fwyngloddio am blwm, arian a mwynau sinc Mae gwaith mwynglawdd Pool Park ar y rhostir wedi’i orchuddio â grug a’r pentyrrau gwastraff o ganlyniad i suddo siafftiau a phrosesu mwyn yn parhau’n llwm o lystyfiant ac yn sefyll allan yn amlwg.

Roedd y mwyngloddiau ar eu hanterth yn y 1860au a’r 1870au, ac heblaw am ddinistrio’r peiriandy, ni effeithiwyd lawer ar yr ardal gan y gweithgaredd diweddaraf. Felly mae’r gwrthgloddiau sy’n parhau yn cynrychioli tirlunio mwyngloddio ffosil yn bennaf.

Mae dau lwybr siafftiau yn dilyn y prif wythiennau, er bod y rhan fwyaf o’r gweithgaredd yn canolbwyntio ar siafftiau mawr gyda blaenau gwastraff sylweddol, sy’n agos at weddillion y pwerdy ac arglawdd sylweddol ar gyfer tramffordd yn cysylltu’r safle i ail ardal o weithfeydd.

Mae dwy brif system oedd yn tynnu dŵr o nant Aber Sychnant hefyd yn parhau’n weladwy, un i gyflenwi mwyngloddiau Mwynglawdd a’r un arall i fwydo cronfa ddŵr fwy.

Chwarel llechi

Mae’r llechi Silwraidd o amgylch Llangollen wedi eu hecsbloetio ers yr ail ganrif ar bymtheg. Ond gyda chyrhaeddiad y gamlas ac yna’r rheilffordd y dechreuoedd y diwydiant llechi lleol allforio y tu allan i’r rhanbarth i Wrecsam a Chanolbarth Lloegr.

Roedd un grŵp o chwareli mawr yn gorwedd o amgylch ymylon Mynydd Llantysilio a Bwlch Yr Oernant, Moel-y-Faen, Clogau (Berwyn), Craig y Glan, Cymmo a Rhiw Goch. Er nad yw’r mwyafrif yn cael eu defnyddio mwyach, maent yn parhau i ddominyddu’r tirlun, yn ffurfio twmpathau enfawr a chloddiadau mawr wedi eu llenwi gyda dŵr. Mae hen adeiladau chwarel, tramffyrdd ac inclein yn parhau ar gael.

Mae Chwarel Lechi’r Berwyn yn SODdGA a Safle Adolygu Cadwraeth Ddaearegol (GCRS). Mae’n parhau i gynhyrchu cynnyrch llechi arbenigol ac mae ei waith yn cael ei werthfawrogi ar gyfer astudio creigiau a ffosil Silwraidd.

Roedd gwaith llechi Pentrefelin ar y gamlas yn Llangollen yn trin deunydd o chwareli Bwlch Yr Oernant gan dramffordd yr Oernant. Roedd yn parhau i weithredu tan y 1920au er gwaethaf problemau tipio a chwynion am lygru afonydd. Yn y pen draw roedd Amgueddfa Modur Llangollen wedi cymryd yr adeiladau drosodd.

Chwarel Calchfaen

Roedd odynnau calch ger camlesi yn gweithredu ar ochr ddeheuol y dyffryn yn Froncysyllte o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen, gan ddefnyddio carreg o’r brigiad ynysig o galchfaen yn chwareli Pen-y-Graig. Cafodd ei gludo i lawr allt ar gyfres o ffyrdd tram ac incleins sy’n parhau’n weladwy heddiw.

Ar ochr arall y dyffryn, roedd yr odynnau calch yn Nhref-y-Nant yn dibynnu ar galchfaen a ddaeth i lawr o Greigiau Trefor, ble mae yna lawer o weddillion y diwydiant calchfaen wedi goroesi gan gynnwys chwareli, tramffyrdd ac odynnau calch.

Gwneuthuriad brics a theils

Roedd diwydiant brics a theils ffyniannus ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Dyfrdwy yn ystod ail hanner y 19eg ganrif yn seiliedig ar glai o ansawdd da o dyddodion glo a gwelyau marl lleol o faes glo Rhiwabon.

Yn agos at y rheilffordd a’r gamlas, roedd yr ardal yn ddelfrydol ar gyfer ateb y galw gan setliadau diwydiannol oedd yn ymestyn yn Wrecsam a chanolbwynt twristiaeth cynyddol yn Llangollen.

Roedd gwaith brics yng Ngarth wedi agor ger tafarn yr Australia Arms yn 1862 ac yn fuan roedd yn cynhyrchu “brics coch ceirios o ansawdd da”.

Erbyn y 1860au roedd y gwaith brics yn Nhref-y-Nant yn gweithredu chwech odyn yn arbenigo mewn cynhyrchu pibellau glanweithiol – gyda galw mawr amdanynt yn dilyn Deddfau Iechyd Y Cyhoedd 1848 a 1858. Caeodd yn 1958 a phrynwyd gan Waith Cemegion Monsanto. Heddiw, yr unig weddillion sydd wedi goroesi yw dau bier brics giatiau’r swyddfa.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?