Bryniau Clwyd

Bryniau Clwyd

  • View of Bryn Alun
    Bryn Alun
  • View of Gronant from Prestatyn Hillside
    View of Gronant, Coed Bell view point
  • *Oak stile on Moel Famau with Vale of Clwyd in distance
    Camfa dderw ar Foel Famau gyda Dyffryn Clwyd yn y pellter /
  • *Bluebells at Coed Bell
    Clychau’r Gog yng Nghoed Bell / Bluebells at Coed Bell

Mae cymeriad unigryw’r dirwedd o fewn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arbennig, adnabyddadwy a chydag elfennau naturiol ac o law dyn. Mae tirweddau’r ardal yn amrywio oherwydd bod daeareg, bioamrywiaeth, edrychiad, archeoleg, hanes a diwylliant yn amrywio o le i le. Mae’r rhyngweithio rhwng pobl a’u hamgylchedd yn gwneud yr AHNE yn lle i bobl fyw a gweithio ynddo, yn ogystal â lle i bobl dreulio eu hamser hamdden.

Bryniau Clwyd

Mae Bryniau Clwyd yn gadwyn ddigamsyniol o gopaon wedi’u gorchuddio â grug porffor, ac arnynt y mae bryngaerau mwyaf trawiadol Prydain wedi’u lleoli. Mae’r cefn gwlad hynod o amrywiol yn cynnwys clogwyni calchfaen a glaswelltir, dyffrynnoedd coediog hudolus a phorfeydd. Mae dyffrynnoedd dwfn yn torri drwy ganol y bryniau mewn rhai mannau ac yn cario’r ddwy brif afon yn yr ardal: Alun a Chwiler, sy’n aml yn diflannu o dan ddaear i gyrsiau dŵr cudd ymysg y calchfaen.

Mae golygfeydd godidog yr ardal o Eryri i Lannau Mersi, yn ein hatgoffa o safbwynt anarferol yr ardal ffiniol hon yng Ngogledd Cymru – yng nghanol y Gymru wledig ond gyda chysylltiadau cryf ar draws y ffin gyda Lloegr. Mae’r dirwedd fawreddog hon yn weladwy o bob cyfeiriad, gan ddenu pobl i ddarganfod a chrwydro.

Copa Moel Famau yw pwynt uchaf Bryniau Clwyd ar 554 o fetrau, gyda bryniau yn ymestyn o Lechwedd Prestatyn yn y gogledd i fwlch Nant y Garth ar ochr Dyffryn Dyfrdwy yn y de, a Dyffryn Clwyd yn y gorllewin i odreon Dyffryn Dyfrdwy yn y dwyrain.

Mae’r rhostir grug agored ar y grib uchaf yn dominyddu’r caeau bychain a chloddiau, ac mae’r coetir ar y llethrau isaf yn arwain at dir fferm ffrwythlon. Mae brigiadau calchfaen nodedig yn ymrwygo i’r wyneb mewn nifer o fannau ar hyd ochr ddwyreiniol y bryniau, yn arbennig yn Llechwedd Prestatyn, Llanferres a Loggerheads sy’n llawn glaswelltir cyfoethog o degeirianau a blodau gwyllt eraill sy’n rhoi hafan i loÿnnod byw. Yn sicr, mae’r dirwedd amrywiol yn golygu amrywiaeth eang o rywogaethau a chynefinoedd bywyd gwyllt.

Mae ein cyfoeth o weddillion hanesyddol ac archeolegol yn dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn-hanesyddol cynnar i’r Ail Ryfel Byd, o fryngaerau o Oes yr Haearn i olion tir llai amlwg y gellir dod o hyd iddynt yn yr ardaloedd isaf. Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn dilyn bron i hyd gyfan y grib cyn eich arwain i Ddyffryn Dyfrdwy.

Mae nifer o safleoedd yn Henebion Rhestredig, gwarchodedig drwy Cadw: Henebion Hanesyddol Cymreig, ond mae nifer o nodweddion hanesyddol eraill, megis cerrig terfyn, ffynhonnau pentrefi a cherrig filltir sydd heb gael eu gwarchod ac felly yn llawer mwy diamddiffyn. Fodd bynnag, maent yn parhau i fod yn rannau pwysig o’r dirwedd ehangach; tystiolaeth o gloddio a chwarela yn y gorffennol, setliadau a mannau claddu, sy’n ffurfio cefndir i’n bywyd heddiw.

Mae ein treftadaeth ddiwylliannol yn gyfoethog ac yn amrywiol. Cynhelir Eisteddfodau ar draws y rhanbarth i ddathlu’r Gymraeg, cerddoriaeth a barddoniaeth, ac mae’r ardal hefyd yn draddodiadol wedi bod yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr, yn arbennig y ddau barc gwledig yn Loggerheads a Moel Famau.

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2021 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?