Dyffryn Dyfrdwy

Dyffryn Dyfrdwy

  • View from Llantysilio Mountain
    Golygfa o Fynydd Llantysilio - View from Llantysilio Mountain
  • *View from Caer Drewyn
    Bryngaer Caer Drewyn gyda gwrthdroad tymheredd yn y cefndir - Caer Drewyn Hillfort with temperature inversion in the background
  • *Pen y Pigyn Waterfall
    Rhaeadr Pen y Pigyn - Pen y Pigyn Waterfall
  • *Eglwyseg Escarpment from Moel Morfydd
    Tarren Eglwyseg o Foel Morfydd - Eglwyseg Escarpment from Moel Morfydd
  • *Castell Dinas Bran on a winter morning
    Castell Dinas Brân ar fore o aeaf - Castell Dinas Bran on a winter morning

Mae cymeriad unigryw’r dirwedd o fewn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arbennig, adnabyddadwy a chydag elfennau naturiol ac o law dyn. Mae tirweddau’r ardal yn amrywio oherwydd bod daeareg, bioamrywiaeth, edrychiad, archeoleg, hanes a diwylliant yn amrywio o le i le. Mae’r rhyngweithio rhwng pobl a’u hamgylchedd yn gwneud yr AHNE yn lle i bobl fyw a gweithio ynddo, yn ogystal â lle i bobl dreulio eu hamser hamdden.

Mae rhai o dirweddau a safleoedd treftadaeth mwyaf eiconig Cymru i’w canfod yma yn yr estyniad deheuol i’r AHNE wreiddiol a ychwanegwyd yn 2011.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yn un o ddim ond tair Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru.

Mae system LANDMAP Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhannu’r estyniad 230 cilomedr sgwâr yma i’r ardaloedd canlynol:

Calchfeini Graianrhyd i Landegla

Ardal o olygfeydd calchfaen carbonifferaidd arbennig sy’n cynnwys bryniau calchfaen, brigiadau creigiau, dyffrynnoedd a choedwigoedd. Mae’r coed a’r ffiniau caeau yn dilyn y llinellau cymhleth o gerrig agored i ffurfio tirwedd ffermio amgaeedig. Mae waliau ac adeiladau calchfaen yn rhan o gymeriad yr ardal. Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y Graig wedi’i ddiogelu oherwydd ei laswelltir calchfaen ac asid. Mae’r calchfeini yn cynnwys ogofau anhygoel gydag olion Neolithig.

Dyffryn y Morwynion

Mae’r dyffryn hwn wedi’i amgáu i’r de gan grib uchel Mynydd Llantysilio a Chyrn-y-Brain ac i’r gogledd gan fryniau tonnog Llanelidan a Gwyddelwern. Mae’r afon yn codi yn y dyffryn cul i’r gogledd o Goed Llandegla, gan lifo tua’r de-orllewin i ymuno ag Afon Dyfrdwy yng Ngharrog. Mae gan y dyffryn hir a llydan hwn lethrau ysgafn o borfeydd wedi’u hamgylchynu gan berthi a waliau carreg. Mae Caer Drewyn, caer cynhanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol, yn nodi pen gorllewinol yr ardal.

Mynydd Llantysilio

Dyma ran o un o rostiroedd agored gorau gogledd Cymru, gyda chynefinoedd prin a phwysig a safleoedd o ddiddordeb hanesyddol. Mae’r tir, sydd yn dir comin agored yn bennaf, yn codi dros 500 metr. Mae’r rhosydd sych sy’n gorchuddio’r rhan helaeth o’r ardal yn rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig, a rhyngwladol bwysig, Mynyddoedd y Berwyn a De Clwyd ac yn darparu cynefin ar gyfer adar yr ucheldir fel y rugiar ddu, pibydd y waun, yr ehedydd, a’r gylfinir. Yn y grib fe welwch chi dystiolaeth o anheddiad cynhanesyddol yn ogystal â henebion fel bryngaer Moel y Gaer. Mae cynnwys y tir sydd o amgylch Bwlch yr Oernant ar y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Pwysig yn amlygu pwysigrwydd chwareli llechi’r ardal.

Mynyddoedd Cyrn-y-Brain a Rhiwabon

Mae’r ardal eang hon yn gorchuddio’r ucheldiroedd a’r rhosydd agored i’r gogledd o Ddyffryn Dyfrdwy. Mae’n cynnwys Mynydd Cyrn-y-Brain, Coed Llandegla a Mynydd Rhiwabon yn ogystal â Rhosydd Llandegla, Mynydd Esclus a Mynydd y Mwynglawdd ger y ffin. Mae rhan fwyaf o lwyfandir rhos agored, anghysbell a llydan yr ardal hon yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Mynyddoedd y Berwyn a De Clwyd. Yma hefyd fe welwch chi boblogaethau allweddol o adar bridio, fel y cudyll bach, mwyalchen y mynydd, y dylluan glustiog a’r cwtiad aur. Mae Chwarel Pant Glas yn safle allweddol ar gyfer daeareg strwythurol, mae yna balmentydd calchfaen yn Aber Sychnant a system genedlaethol bwysig o ogofeydd yn y Mwynglawdd. Ceir tystiolaeth dros ardal eang o aneddiadau cynhanesyddol ar ffurf carneddau a meini hirion ar dir uchel.

Llethrau dwyreiniol Mynydd Rhiwabon

Tirwedd amgaeedig, gyda phorfeydd yn bennaf, sy’n gorwedd ar grib ddwyreiniol yr ardal ac sy’n wynebu Wrecsam a Gwastadedd Caer. Er bod y tir yn dir amaethyddol wedi’i wella, mae yma nifer o gloddiau coed a choedlannau bychan. Ceir golygfeydd tuag i mewn ac allan o’r ffermydd anghysbell a’r pentrefannau bychain. Ymhellach i’r dwyrain mae’r ffermydd anghysbell a’r pentrefannau yn troi’n aneddiadau mwy fel Penycae a Garth ac mae dylanwad y pyllau glo yn fwyfwy amlwg. Mae llawer o’r dyffrynnoedd bychain yn cynnwys gweddillion coetiroedd lled-naturiol hynafol (gan gynnwys coetiroedd derw ac ynn) sy’n safleoedd bywyd gwyllt lleol. Mae bryngaer Pen y Gaer yn safle o bwysigrwydd hanesyddol eithriadol.

Bro Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy

Wedi’i hamgáu i’r gogledd gan Fynyddoedd Llantysilio a Rhiwabon ac i’r de gan ochr ogleddol Mynydd y Berwyn, mae’r dirwedd hon yn eiconig a’r golygfeydd yn eithriadol. Dros y canrifoedd mae’r ardal wedi ysbrydoli sawl chwedl, llenor, arlunydd a cherddor. Cafodd yr ucheldiroedd a’r dyffrynnoedd eu ffurfio gan ymdoriadau a mas-symudiad, ac yna’u cerfio gan rewlifau. Mae’r ardal hon yn borth dramatig i ogledd Cymru gydag ochrau’r dyffrynnoedd yn serth, ystumiau rhychiog a dwfn, a therasau ffosil. Ar yr ochr ogleddol mae dyffryn serth afon Eglwyseg a chlogwyni calchfaen carbonifferaidd Creigiau Eglwyseg – y llethrau sgri mwyaf trawiadol ym Mhrydain. Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a’r Rhodfa Panorama, sy’n rhedeg ar hyd troed Creigiau Eglwyseg, yn cynnig golygfeydd syfrdanol o’r fro. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Dyfrdwy yn gadwyn o ddyffrynnoedd serth. Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Afon Dyfrdwy yn bwysig oherwydd ei gynefinoedd eog, dyfrgi a gwlyptir. Mae’r henebion hynafol yn cynnwys Castell Dinas Brân ac Abaty Glyn y Groes, ac mae’r rhan fwyaf o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte hefyd yn yr ardal hon.

Gogledd Mynydd y Berwyn

Ar ochr ddeheuol Bro Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy mae’r dirwedd yn wahanol iawn i dirwedd ucheldir y gogledd. Mae’n ardal fwy syml, anghysbell ac yn llai sefydlog. Mae’r rhan hon o Fynydd y Berwyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn Ardal Gadwraeth Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig Ewropeaidd, sy’n cynnwys rhos, gorgors a mignen o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n gartref i ysgyfarnogod, bras y gors, cudyllod bach, hebogau tramor, y barcut coch, bod tinwyn, cwtiaid aur a’r rugiar ddu a choch. Mae Coedwig Ceiriog hefyd yn gynefin i wiwerod coch. Mae mawndiroedd yr ardal yn rhai o bwysigrwydd cenedlaethol, gyda defnydd tir a safleoedd claddu sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod cynhanesyddol.

Stad y Waun i Froncysyllte

Yn gorwedd ar gornel dde-ddwyreiniol yr AHNE mae’r dirwedd hon mewn lleoliad strategol bwysig ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r ardal yn borth i Fro Llangollen ac yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte. Yma hefyd mae castell cenedlaethol bwysig y Waun. Mae’r tir glas, y parcdir a’r hen goed yn y Waun yn gynefin sydd wedi’i flaenoriaethu’n genedlaethol am ei fioamrywiaeth ac yn gartref i amrywiaeth o saproffytau ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Mae yna nifer o goetiroedd hynafol a safleoedd bywyd gwyllt lleol o fewn y parc ac ymhellach i’r gogledd ger Froncysyllte.

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2021 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?