Cynefinoedd

Cynefinoedd

  • Coed Pen y Pigyn
    Coed Pen y Pigyn
  • Coed Bell
    Coed Bell
  • Moel Famau
  • *Orchid
    Tegeirian / Orchid
  • *Belted Galloway Cattle
    Gwartheg Belted Galloway Cattle

Mae bioamrywiaeth yn disgrifio popeth byw yn y byd, o’r pryf lleiaf i’r goeden dalaf, o ficrobau i forfilod gleision a phopeth yn y canol.

Geoamrywiaeth yw’r amrywiaeth o elfennau daearegol yn cynnwys mathau o graig a phridd, mwynau, ffosiliau, dŵr a thirffurfiau.

Pan fydd bioamrywiaeth a geoamrywiaeth yn cyfuno maent yn creu cynefinoedd cymhleth y mae ystod amrywiol o fywyd gwyllt a phlanhigion yn dibynnu arnynt. Mae goroesiad y cynefinoedd hyn yn dibynnu’n llwyr ar ein gallu i ddeall, gwerthfawrogi a gofalu amdanynt.

Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cynnwys nifer o gynefinoedd a bywyd gwyllt y mae angen gweithredu i atal eu dirywiad ac yn wir, eu hadfer. Darllenwch am ein prosiectau i weld y camau gweithredu penodol sydd ar waith.

Clogwyni calchfaen a chalchbalmant

Mae calchfaen yn graig hynod sy’n ffurfio rhai o dirweddau mwyaf nodedig Prydain. Mae enghreifftiau gwych o’r golygfeydd dramatig hyn i’w gweld yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yng Nghreigiau Eglwyseg, Bryn Alun, Bryniau Prestatyn a Pharc Gwledig Loggerheads.

Porfa galchfaen

Mae porfa galchfaen yn gynefin hynod wahanol ac yn gartref i lawer o flodau gwyllt fel briallu Mairsawrus a chor-rosyn, gan gynnwys rhai prin ac anghyffredin fel crwynllys yr hydref a thegeirian fel tegeirian porffor y gwanwyn. Yn eu tro mae’r rhain yn cynnig rhywbeth i amryw o anifeiliaid di-asgwrn-cefn gan gynnwys llawer o loÿnnod byw a gwyfynod fel y glöyn byw glas cyffredin a’r gwyfyn bwrned smotiau coch.

Rhostir

Mae’r ardaloedd mawr o rosydd grug sy’n garped ar lawr yr AHNE o bwys rhyngwladol. Mae dros hanner cynefinoedd rhostir y byd yn y DU ac maent yn ffurfio’r ardal fwyaf o gynefinoedd bywyd gwyllt annatblygedig sydd ar ôl yng Nghymru o bell ffordd.

Mae’r rhostiroedd hyn yn llefydd arbennig i adar yr ucheldir fel clochdar y cerrig, cornhedydd y coed, cudwalch yr ieir a’r cudyll bach sy’n ymweld â’r rhostiroedd yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf i fridio. Roedd cri’r gylfinir yn arfer bod yn sŵn cyfarwydd yn yr haf cyn iddo ddychwelyd i’r aberoedd dros y gaeaf. Mae rhostiroedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy hefyd yn gadarnle i’r grugiar ddu, un o adar mwyaf prin y DU. Darllenwch fwy am reoli rhostir yn yr AHNE.

Coetir

Mae llawer o goetiroedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn goetiroedd hynafol lled naturiol sy’n cynrychioli cyswllt â’r tirlun fel ag yr oedd yn dilyn yr oes yr iâ olaf. Gan na fu llawer o darfu arnynt ers cyhyd, maen nhw’n cynnal amrywiaeth gyfoethog o fflora a ffawna. Darllenwch fwy am arferion rheoli coetiroedd yn yr AHNE.

Dyffrynnoedd afonydd a gwlyptir

Mae dyfrgwn a llygod pengrwn y dŵr yn dibynnu ar ein dyfrffyrdd. Yn ffodus, mae’r dyfrgi yn dechrau adfeddiannu ei hun eto ond mae’r llygod dŵr yn dirywio’n sylweddol. Mae angen gweithredu rŵan i’w atal rhag diflannu’n llwyr.

 

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?