Llwybr Clawdd Offa ar gyfres ITV
Llwybr Clawdd Offa ar gyfres ITV
Bydd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn seren cyfres deledu newydd sy’n cael ei darlledu gan ITV yn ystod mis Ebrill a mis Mai.
Bydd ‘Wonders of the Border’ yn gweld cyflwynydd Good Morning Britain a Countryfile, Sean Fletcher, yn ymweld â mwy na 50 o leoliadau ar hyd y Llwybr Cenedlaethol 177 milltir o hyd ac yn cwrdd â rhai o’r bobl sydd wedi gwneud y gororau rhwng Cymru a Lloegr yn gartref iddynt.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae Sean yn siarad gyda ffrind yr AHNE Fiona Gale am hanes bryngaer hyfryd Penycloddiau.
Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar ITV Cymru o 7.30pm ddydd Iau 15 Ebrill gyda darllediad rhwydwaith o’r gyfres chwe rhan wedi’i gynllunio ar gyfer gwylwyr ITV ledled y DU yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Yn ystod y gyfres, mae Sean yn dysgu mwy am hanes yr heneb ac mae hefyd yn rhoi cynnig ar weithgareddau mwy modern, o gaiacio a nofio gwyllt yn Afon Gwy i feicio mynydd yng Nghoed Llandegla.
(diolch i https://www.itv.com/news/wales/2021-04-13/offas-dyke-path-to-star-in-new-itv-series)