Camu’r Darluniadwy

Camu’r Darluniadwy

  • *Horseshoe Falls
    Rhaeadr y Bedol - Horseshoe Falls
  • HorseshoeFalles near Llangollen
    An elegant engineering triumph

Fel rhan o’r Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, mae cyfres o deithiau cerdded wedi cael eu datblygu, a fydd yn arwain ymwelwyr a phobl leol at olygfeydd a nodweddion hanesyddol nad ydynt, efallai, wedi’u gweld o’r blaen ac i wella’u profiad a’u dealltwriaeth o Ddyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.

View of Horseshoe Falls

Yn olion traed Merched Llangollen – yn daith gylchol tair milltir o hyd o Blas Newydd, Llangollen ar hyd Dyffryn Pengwern a thrwy’r coetir ym Mhen y Coed.

Pellter: 3 milltir /5 cilomedr
Hyd bras: 2 awr.
Mae’n cynnwys lonydd gwledig tawel, tir amaethyddol a choetir. Mae rhai rhannau serth.

Darganfod Peirianwyr ac Artistiaid
yn Llangollen – yn daith gylchol o Raeadr y Bedol, yn cynnwys golygfeydd bendigedig o Gamlas Llangollen a thirnodau hanesyddol, sydd wedi cael ei chofnodi’n gelfyddydol ers canrifoedd ac sydd wedi’i lleoli o fewn Dyffryn Dyfrdwy.

Pellter: 2.5 milltir / 4km
Amser: Tua 1.5 awr
Yn cynnwys llwybrau tynnu a llwybrau naturiol drwy goetir a thir amaethyddol. Mae yna rannau serth. Mae rhannau o’r daith hon yn dilyn Llwybr Hanes Llangollen. Mae yna hefyd ddewis lefel uwch sy’n mynd â chi i gopa Moel Tan y Coed. Cofiwch gadw golwg am y paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?