Crynodeb o’r Prosiect: Cadwraeth
-
Volunteers weeding out Himalayan Balsam
-
Volunteers restoring a dry stone wall
Cadw’r Darluniadwy
Mae gan Brosiect Ein Tirlun Darluniadwy gynllun ar waith i reoli coetiroedd cynaliadwy wrth ymyl Traphont Ddŵr Pontcysyllte a cheisio datgelu rhai o olygfeydd allweddol Safle Treftadaeth y Byd. Bydd y gwaith tocio yn sicrhau bod yna gymysgedd o rywogaethau brodorol a choed o oedrannau gwahanol er budd bywyd gwyllt, coed a phlanhigion y coetir. Mae hyn yn rhan o raglen ehangach i ddatgelu golygfeydd allweddol Safle Treftadaeth y Byd ac i annog bioamrywiaeth, yn arbennig ger Pontcysyllte, y Waun a Rhaeadr y Bedol.
Bydd y prosiect hefyd yn ceisio dod o hyd i atebion dyfeisgar i leihau problemau tagfeydd, mynediad ac erydiad yn rhai o’n safleoedd mwyaf bregus.
Oeddech chi’n gwybod?
Yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect, treuliwyd 671 o oriau ar waith cadwraeth.
Mae un ar ddeg o brosiectau o fewn thema cadw’r darluniadwy, sy’n cynnwys rheoli rhai o’r rhywogaethau goresgynnol sydd wedi dechrau meddiannu’r tirlun, a hefyd adfer llwybrau bywyd gwyllt sy’n galluogi’r fflora a’r ffawna i ffynnu.
Mae’r Cynllun Grant Cefn Gwlad yn fenter a gefnogir gan brosiect Ein Tirlun Darluniadwy er mwyn helpu i ariannu prosiectau lleol sy’n ceisio gwarchod yn ogystal â gwella ardal y prosiect. Gallai prosiectau lleol sy’n cynnwys adfer perthi a phyllau, plannu coed, rheoli coetir neu rostir, neu wella gwlyptir hynafol fanteisio ar y gronfa. Gallwch ddarganfod mwy drwy fynd i’n tudalen grantiau.
Perthnasol

Y Bws Darluniadwy
Our Picturesque Landscape
Gwasanaeth bws newydd yn Nyffryn Dyfrdwy i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.

Crynodeb o'r Prosiect: Mynediad
Our Picturesque Landscape
Crynodeb o'n Prosiect Tirwedd Pictiwrésg: Mynediad
Ein Tirlun Darluniadwy

Ariennir Ein Tirlun Darluniadwy gan y National Lottery Heritage Fund