Cefndir y Prosiect

Cefndir y Prosiect

  • Volunteers weeding out Himalayan Balsam
    Volunteers weeding out Himalayan Balsam

Cefndir Cynllun Partneriaeth Ein Tirlun Darluniadwy

Mae Ein Tirlun Darluniadwy yn brosiect partneriaeth a ddatblygwyd gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, Cyngor Sir Amwythig, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw, Cadwyn Clwyd, Aqueducks (Cyfeillion Safle Treftadaeth y Byd) a Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae holl bartneriaid yn cael eu cynrychioli ar grwp llywio prosiect ac yn ymgysylltu yn natblygiad y prosiect.

Mae’r prosiect yn gynllun £2 filiwn dros 5 mlynedd a gefnogir gan Gronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol. Dechreuodd ym mis Tachwedd 2018 a disgwylir iddo orffen yn 2023.

Twristiaid Cynnar

Mae’r hanes yn dechrau ym 1771, pan ddechreuodd Syr Watkin Williams Wynn, wedi’i ddylanwadu gan ei deithiau mawr o Ewrop, ar un o’r teithiau domestig cyntaf o amgylch ei ystadau yng Ngogledd Cymru, gyda’r artist Paul Sandby. Cyhoeddodd Sandby XII o olygfeydd Gogledd Cymru, a chomisiynodd Syr Watkin ddwy olygfa o Ddinas Brân gan Richard Wilson, gan ddatgelu tirlun darluniadwy ac anhygoel. Dilynodd artistiaid a sylwebwyr eraill wedyn.

O amgylch yr un pryd, roedd Merched Llangollen, Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, o’u cartref ym Mhlas Newydd, yn sefydlu Dyffryn Dyfrdwy fel canolfan gwerthfawrogi golygfeydd. Roeddent yn gefnogwyr brwd o’r rhamant, ac roedd y gymdeithas wedi cyfareddu â’u bywydau. Arhosodd nifer o ymwelwyr yno, yn arbennig awduron gan gynnwys William Wordsworth ac Anna Seward.

Mae nifer o’r darluniau gwreiddiol wedi cael eu hailgynhyrchu gan artistiaid yn dilyn trywydd yr artistiaid tirlun cynnar. Ymwelodd JMW Turner yn benodol â Dyffryn Dyfrdwy nifer o weithiau gan ddarlunio’r Afon Ddyfrdwy yng Nghorwen a Glyn y Groes a Chastell Dinas Brân.

Mae llyfrau o’r ardal yn cynnwys “Wanderings and Excursions in north Wales” (1836) gan Thomas Roscoe, sy’n cynnwys darlun o Glyn y Groes. Cynhyrchodd Henry Gastineau “Wales Illustrated” yn 1830-31 gan gynnwys darluniau o Ddinas Brân, Glyn y Groes ac ardal Llangollen. Fe wnaeth George Borrow gynnwys Dyffryn Dyfrdwy ar ei daith o Gymru yn y 1830au hefyd.

Roedd strwythurau peirianyddol mawr yn y cyfnod, megis Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Rhaeadr y Bedol a’r Bont Gadwyn gydag agwedd estheteg, gan ddynodi y gallai cynnydd peirianyddol mawr gymryd lle yn y dirwedd a chyd-fynd gyda natur.

Erbyn dechrau a chanol y 19eg ganrif, roedd poblogrwydd tirlun Dyffryn Dyfrdwy, ynghyd â ffactorau eraill yn dechrau cael eu sefydlu yn ein hymwybod fel tirluniau eiconig. Daeth yr A5 a’r rheilffordd yn lwybrau i dwristiaid, gan ddod ag ymwelwyr i ogledd Cymru mewn niferoedd a rhoi Llangollen a Chorwen ar y map.

Themâu’r prosiect

Mae themâu’r prosiect Ein Tirlun Darluniadwy – Pobl a’r Tirlun Darluniadwy, Mynediad at y Tirlun Darluniadwy a Chadwraeth y Tirlun Darluniadwy – wedi cael eu datblygu drwy ymgynghoriad budd-ddeiliad a chymuned ac yn adlewyrchu dyheadau’r cymunedau sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’r themâu hyn hefyd yn nodi bod y dirwedd o dan bwysau mawr, gyda nifer uchel o ymwelwyr yn cael eu denu at yr hyn sy’n aml yn cynnwys ein safleoedd mwyaf bregus. Mae’r cymunedau sydd o’u hamgylch, a ddaeth i fod o ganlyniad i’r gwaith diwydiannol a’u siapiodd, bellach â llai o gyswllt â’r buddion sydd gan y dirwedd i’w cynnig. Bydd y prosiect yn buddsoddi yng ngwydnwch safleoedd allweddol i ymwelwyr ac yn cynnwys cymunedau wrth eu gwerthfawrogi a’u rheoli, gan ailddehongli’r dirwedd gyfoethog hon ar gyfer cenhedlaeth newydd

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?