Crynodeb o’r Prosiect: Pobl

Crynodeb o’r Prosiect: Pobl

  • Corwen Peace Eisteddfod
    Corwen Peace Eisteddfod

Agwedd arall ar Brosiect Ein Tirlun Darluniadwy yw ailgysylltu ymwelwyr a thrigolion gyda’r bobl a siapiodd dirlun Safle Treftadaeth y Byd, ac a helpodd i greu’r lle arbennig sydd yma i’w weld heddiw.

Gwirfoddoli

Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer pobl i wirfoddoli yng Nyffryn Dyfrdwy, gyda sesiynau garddio wythnosol yn Nhŷ Hanesyddol Plas Newydd yn Llangollen a gweithgareddau cadwraeth a rheoli cefn gwlad gyda thîm Ceidwaid AHNE yn ardal Dyffryn Dyfrdwy ehangach. Mae cyfleoedd amrywiol gyda’n partneriaid prosiect Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd ym Mhontcysyllte, Basn Trefor, a chyfarch ymwelwyr a rhannu straeon hanesyddol yng Nghwt y Fforddolwyr yn Rhaeadr y Bedol, sydd wedi ei adfer a’i agor yn ddiweddar gan y Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy. Cysylltwch er mwyn darganfod mwy.

Ewch yn wyllt gydag Arwyr Treftadaeth

Mae ein gweithgareddau teuluol misol ar ôl ysgol a’r gwyliau am ddim, yn cael eu cynnal ym Mhlas Newydd yn Llangollen o hanner tymor mis Chwefror i hanner tymor mis Hydref. Mae rhieni yn aros ac yn chwarae i fwynhau gweithgareddau gyda’u plant, gyda themâu gan gynnwys bywyd gwyllt, celf, hanes a bod yn actif tu allan.

Cefn Creadigol

Bob mis rydym yn cynnal grŵp celf a chrefft am ddim i oedolion yng Nghefn Mawr ac mae croeso i bawb. Ymhob sesiwn, rydym yn gwahodd artist i arwain gweithgareddau megis, ffeltio gwlân, collage papur, creu sgetsys, paentio, gwehyddu ac argraffu i enwi ond y rhai.  Cysylltwch os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r hwyl.

Estyn Allan

Mae’r tîm prosiect Ein Tirlun Darlunadwy hefyd yn hwyluso sesiynau estyn allan megis gweithgareddau celf, mynd am dro, garddio a bywyd gwyllt a natur ar gyfer grwpiau arbenigol megis Mind Dyffryn Clwyd, Dynamic Wrexham – Canolfan ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anableddau  a Co-options – “Cysylltu pobl gydag Anableddau Dysgu gyda chyfleoedd”. Rydym yn gyffrous i weithio gyda’r grwpiau hyn er mwyn eu cysylltu gyda’u tirlun lleol ac rydym yn croesawu grwpiau newydd a phobl newydd i gymryd rhan yn ein sesiynau estyn allan.

Cysylltu Cymunedau a Phobl Ifanc
Yn 2019 gweithiodd Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy gydag Ysgol Caer Drewyn, aelodau’r gymuned leol yng Nghanolfan Ni, artistiaid lleol ac Amgueddfa Corwen er mwyn coffau Canmlwyddiant Eisteddfod Heddwch Corwen 1919. Mae meini’r orsedd o’r Eisteddfod hon yng nghoedwig hardd Coed Pen y Pigyn, safle a reolir gan Dîm AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy mewn partneriaeth gyda’r tirfeddianwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru. Gwnaed ffilm i nodi’r achlysur hwn.

Oeddech chi’n gwybod?

Ers i’r prosiect ddechrau ym mis Tachwedd 2018, rydym wedi arwain 23 o brosiectau gyda’n hysgolion lleol, gan ymgysylltu gyda dros 1100 o bobl ifanc. Rydym yn datblygu pecyn addysgol ar gyfer athrawon i’w ddefnyddio yn y dyfodol, darganfyddwch fwy isod.

Celf wedi’i ysbrydoli gan y Tirlun

Mae harddwch Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn ysbrydoliaeth i artistiaid, beirdd a llenorion ers canrifoedd. Er mwyn parhau â’r traddodiad hwn, mae prosiect Ein Tirlun Darluniadwy wedi gweithio gydag amrywiaeth o beintwyr ac artistiaid â thema lenyddol trwy gydol y prosiect, er mwyn cyflwyno gwaith celf newydd sydd wedi’i ysbrydoli gan Ddyffryn Dyfrdwy yn ogystal â gweithdai cymunedol a llwybrau QR.

Ewch draw i’n tudalen Artist Preswyl i gael rhagor o wybodaeth.

Darganfod Safle Treftadaeth y Byd
Dathlwyd 10 mlynedd ers cofrestru Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yn 2019. Gweithiodd tîm Ein Tirlun Darluniadwy yn agos gydag artistiaid lleol er mwyn annog cymunedau ac ysgolion lleol i ailddarganfod a dathlu’r Safle Treftadaeth y Byd sydd ar garreg eu drws. Roedd plant o ysgolion lleol wedi cyfarfod â’r Thomas Telford “go iawn” pan ddaeth o draw i ymweld â’r draphont ddŵr. Ariannwyd diwrnod o hwyl am ddim i’r teulu ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr a hynny mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth y Gamlas a’r Afon, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Gweithiodd y tîm hefyd gyda NEW Dance i greu dawns fodern gyda phobl ifanc er mwyn ei pherfformio yn y diwrnod hwyl i’r teulu. Bu ysgolion, grwpiau ieuenctid a grwpiau cymuned yn cymryd rhan yn y gweithgareddau celf a ysbrydolwyd gan dirlun Safle Treftadaeth y Byd a phenllanw hyn oedd arddangosfa yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam

Pecyn Addysg

Mae’r tîm yn datblygu adnoddau addysgol newydd ar gyfer ysgolion i’w defnyddio er mwyn darganfod mwy am Ein Tirlun Darluniadwy, trwy fwndeli dysgu ar thema, gan gynnwys Celf wedi’i ysbrydoli gan Dirlun Dyffryn Dyfrdwy; Pobl, Gorffennol a Phresennol Dyffryn Dyfrdwy; ac Archwilio Dyffryn Dyfrdwy. Bydd ystod o adnoddau creadigol a rhyngweithiol o fewn y bwndeli dysgu a fydd yn ychwanegiad gwych i’r rhai sydd eisoes wedi’u cynhyrchu gan  Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte.

Adfer y Glyn

Mae’r gwaith o adfer y Glyn ym Mhlas Newydd wedi bod yn brosiect parhaus gyda’r nod o adfer y tirlun yn ôl i leoliad o lonyddwch, wedi’i ddylunio gan yr enwog Merched Llangollen.

Mae rhannau o’r tiroedd hanesyddol, yn cynnwys adfer yr adeilad pwmp ‘ram’, plannu rhodfa o goed bedw a gardd y gors, ailadeiladu’r waliau sychion a rheiliau tŷ haf newydd sbon, ymysg nifer o brosiectau y bu modd eu cynnal gyda chymorth ein cyllid a gwirfoddolwyr.

Mae’r coed o goeden llwyfen 200 oed a dorrwyd ar y tir, bellach yn ôl yn y Glyn drwy gasgliad o feinciau newydd a gerfiwyd i ymwelwyr eistedd a mwynhau golygfeydd a synau’r tirlun.

Roedd blwyddyn gynta’r prosiect yn gyffrous, gyda sawl tasg ar y gweill, megis cychwyn adfer y glyn ym Mhlas Newydd er mwyn ail-greu’r lle heddychlon a gynlluniwyd gan Ferched enwog Llangollen.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?