AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Bryngaerau

Cafodd bryniau grug porffor Bryniau Clwyd a Mynyddoedd Llandysilio eu creu o fwd a thywod a waddodwyd ar wely’r môr a oedd yn gorchuddio’r rhan yma o Gymru tua 400 miliwn mlynedd yn ôl.

Hillfort - Moel Arthur

Fe wnaeth symudiadau daear godi’r creigiau hyn i greu’r mynyddoedd a’r bryniau, gyda’r dyffrynnoedd rhyngol wedi’u crafu allan gan symudiad rhewlifoedd.
 
Yn ystod yr Oes Haearn, tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, cododd pobl bentrefi amddiffynedig ar ben y bryniau, gan fanteisio ar y tirffurf a grëwyd gan brosesau daearegol miliynau o flynyddoedd yn gynharach. Roeddynt yn byw mewn tai crwn  pren wedi’u diogelu gan ragfuriau (cloddiau pridd a ffosydd).

Mae’r gadwyn ysblennydd yma o fryngaerau yn ymestyn o Foel Hiraddug yn y gogledd i Gaer Drewyn yn y de-orllewin, gan ffurfio un o’r tirweddau hanesyddol pwysicaf yng Nghymru.

Er bod y bryngaerau mor amlwg, ychydig iawn a wyddom amdanynt neu am eu perthynas â’i gilydd. Mae llawer o ffyrdd posibl y gallant fod wedi’u defnyddio – amddiffyniad, ffermio, mannau cyfarfod a symbolau statws.

Roedd Partneriaeth Tirwedd y Grug a’r Caerau, prosiect pum mlynedd a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ac a gwblhawyd yn 2012, yn anelu at warchod a chynnal treftadaeth y bryngaerau a’r gweundir grug.

Roedd ag eisiau ailgysylltu pobl â’r ucheldiroedd ac ychwanegu at eu mwynhad ohonynt trwy ddehongli, addysg a digwyddiadau arbennig.

Y canlyniad oedd cyfres o fentrau i warchod y bryngaerau, adfer y gweundir, gwella mynediad at y safleoedd a gwella dealltwriaeth o dirwedd y mae mwy na hanner miliwn o bobl yn ymweld â hi bob blwyddyn – lawer ohonynt heb fod yn gwybod dim am arwyddocâd naturiol a hanesyddol eu cyrchfan.

Wedi’u cynnwys ym mhrosiect y Grug a’r Caerau oedd Penycloddiau, Moel Arthur, Moel y Gaer Llanbedr, Moel Fenlli, Moel y Gaer Llandysilio a Chaer Drewyn.  

Footer

Gwnaed gan Splinter