Coed Pen y Pigyn

Coed Pen y Pigyn

Mae Coed Pen y Pigyn hefyd i’w canfod yn Nyffryn Dyfrdwy, ger canol tref Corwen.

Parciwch yn y prif faes parcio, dilynwch y llwybr heibio i’r eglwys ac ewch i mewn i’r coetir derw mes di-goes serth. Dyma fan llawn awyrgylch sy’n cynnwys Cerrig yr Orsedd a godwyd ar gyfer Eisteddfod y Fuddugoliaeth yn 1919. Cafodd yr orsedd gyntaf ei chreu yn 1972 gan Iolo Morgannwg, a oedd yn credu ei fod yn un o ddisgynyddion y derwyddon. Mae cylchoedd cerrig i’w gweld ar hyd a lled Cymru ac maen nhw’n rhan o hen draddodiad o gadeirio a choroni beirdd buddugol mewn Eisteddfodau.

Ar hyd y llwybrau drwy’r coetir hynafol fe welwch chi lawer o gerfluniau o anifeiliaid ac, os ydych chi’n lwcus, efallai y gwelwch chi rai byw hefyd!

Mae yna stori dda ynghlwm wrth yr olygfan. Yn ôl yr hanes, yn y fan hon yr oedd Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, yn sefyll pan daflodd ei ddagr mewn gwylltineb a tharo carreg islaw. Mae’r garreg, a’r marc dagr rhyfedd sydd arni, i’w gweld hyd heddiw ac yn lintel uwchben drws deheuol Eglwys Corwen.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?