Parc Gwledig Moel Famau

Parc Gwledig Moel Famau

  • The Jubilee Tower in Edwardian Times
    The Jubilee Tower in Edwardian Times

Yn 554 metr o uchder Moel Famau ydi copa uchaf Bryniau Clwyd.

Saif yng nghanol bryniau grug yng nghanol y gadwyn o fynyddoedd. Yma fe gewch chi olygfeydd godidog o Ddyffryn Clwyd i Eryri ac arfordir gogledd Cymru. Y ffordd orau i’w chyrraedd ydi ar hyd Llwybr Cenedlaethol y Clawdd Offa. Ar y copa saif Tŵr y Jiwbilî, sy’n weladwy filltiroedd i ffwrdd.

Mae Moel Famau a’r rhan fwyaf o’r tir sy’n rhan o Barc Gwledig Moel Famau yn denu dros 250,000 o ymwelwyr pob blwyddyn.

Oeddech chi’n gwybod?

Yn 1888, roedd adroddiadau am aur a ganfuwyd ar Foel Famau wedi cyrraedd y penawdau lleol. Cafodd y tir o amgylch Moel Famau ei gloddio yn yr hyn a oedd yn hysbys fel ‘Rhuthr am Aur Cilcain’ ond yn anffodus ni chanfuwyd ffortiwn.

Mae’r mynyddoedd yn y rhan hon o’r sir wedi’u gorchuddio gan flanced o rostir grug, cynefin gyda phwysigrwydd rhyngwladol. Ond dim ond tamaid bach yw hyn o’r hyn a oedd yma gan mlynedd yn ôl. Ers yr Ail Ryfel Byd mae coedwigo a gwelliannau ym myd amaeth wedi arwain at golli 40% o’r cynefin hwn.

Mae’r rhan fwyaf o’r parc gwledig yn dir comin sy’n eiddo i Gynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, lle mae gan sawl ffarmwr yr hawl i bori defaid drosto. Pan fyddwch yn cerdded ac yn beicio yma, cofiwch fod defaid yn pori ar y bryniau drwy gydol y rhan fwyaf o’r flwyddyn.

Pan fyddwch chi’n mynd am dro efallai y gwelwch chi siapiau rhyfedd wedi’u torri yn y grug. Mae hyn yn rhan o waith rheoli parhaus sydd wedi bod yn cael ei wneud ar yr ucheldir ers cenedlaethau – mae cyfuniad o losgi a thorri yn annog grug newydd i dyfu ac yn darparu porfa ffres i ddefaid.

Mae hyn hefyd yn creu mannau nythu a bwydo gwych i adar yr ucheldir. Mae’r rugiar ddu o bwys mawr a hon ydi un o adar prinnaf Cymru. Serch hynny, fe welwch chi ychydig ohonyn nhw yma – ers diwedd y 1990au, mae’r boblogaeth wedi tyfu o 10 o wrywod, i gyfrifiadau diweddar o 40 o geiliogod du. Yn y gwanwyn, yn gynnar iawn yn y bore, bydd y gwrywod yn dod at ei gilydd i arddangos eu hunain a chystadlu am y benywod. Mae’r “paru” yma yn sioe ryfeddol.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2021 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?