Fflora and Ffawna

Fflora and Ffawna

Mae Parc Gwledig Loggerheads yn safle rhyngwladol bwysig ar gyfer cadwraeth, wedii ddynodin Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Y coetir ynn cymysg, y coetir gwlyb a’r glaswelltir carreg galch sy’n ei wneud mor arbennig. Ond mae llawer o blanhigion ac anifeiliaid anghyffredin hefyd ac mae’r afon ei hun yn gynefin pwysig.

Mae’r priddoedd ar y clogwyni yn denau, yn brin eu maethynnau ac yn alcalïaidd oherwydd y garreg galch waelodol. Mae planhigion brau sy’n arbenigol i’r amodau hyn yn ffynnu, yn cynnwys rhosyn y graig, pig-yr-aran ruddgoch, bwrned, teim gwyllt, mefus gwyllt ac eurinllys, sy’n creu toreth o liwiau ar ddechrau’r haf.

Mae’r planhigion hyn yn anhepgor i lawer o löynnod byw a gwyfynod. Mae’r glaswelltiroedd yn cynnig cartref i lawer o löynnod byw cyffredin megis y gwyn blaen oren a’r fantell dramor ond o bwys arbennig mae’r gwibiwr brith – glöyn byw prin y mae’i lindys ond yn bwydo ar ddyrnaid o blanhigion o deulu’r mefus.

Cadwch lygad am y ddiadell o ddefaid Hebridëaidd yn pori yn y llannerch goedwigol y tu ôl i’r clogwyni. Mae’r brîd caled hwn yn bwyta’r prysgwydd gwydn, pigog ac yn ei atal rhag tresmasu ar y glaswelltir.

Mae’r coetiroedd ynn, sy’n cael eu hadnabod fel Coedydd Dyffryn Alun, yn ymestyn ar hyd y dyffryn o Loggerheads i Rydymwyn dair milltir i’r gogledd. Onnen ydy’r goeden drech ond mae llawer o rai eraill yn cynnwys llwyfen lydanddail, collen a derwen. Yn y gwanwyn mae’r coetir wedi’i garpedu gan graf gwyllt egr, clychau’r gog, blodau’r gwynt gwyn a llygad Ebrill melyn.

Y gwanwyn ydy’r amser gorau hefyd i ddod i wylio adar ac fe all y rheini gyda chlust fain glywed y tingoch, y gwybedog mannog a’r gwybedog brith. Mae telor y coed i’w gael weithiau ond mae telor yr helyg, y siff-siaff a’r telor penddu yn fwy cyffredin.

TMae Afon Alun yn darparu cartref i lawer o rywogaethau diddorol megis pysgod penlletwad a dyfrgwn, sydd wedi dychwelyd i’r afon yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r pryfetach toreithiog yn denu llawer o adar hefyd.

Bydd mynd am dro ar hyd yr afon yn llawn llif yn cael ei wobrwyo’n aml gan gip ar fronwen y dŵr, aderyn brown bychan gyda bron wen sy’n siglo i fyny ac i lawr ar graig neu’n hedfan yn gyflym ar hyd yr afon. Mae’r siglen lwyd, aderyn eiddil gyda bol melyn a chynffon hir sy’n siglo’n ddi-baid, yn gyffredin hefyd. Pan fo’r afon yn diflannu, gellwch gael cipolwg weithiau ar las y dorlan yn hela am y pysgod sydd yn y golwg.

Mae ymlusgiaid yn cynnwys y wiber, y neidr ddafad a’r fadfall yn ffafrio’r calchbalmentydd diarffordd a glaswelltiroedd tawelach, oddi wrth yr ardaloedd ymwelwyr prysurach.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?