Mwyngloddio a Melino

Mwyngloddio a Melino

  • Flowers at Loggerheads Country Park

Y dyddiau hyn mae hin anodd dychmygu bod y dyffryn tawel hwn yn ddiwydiannol ar un adeg, gydag olwynion dr, twneli, tramffyrdd, sianeli dr a llawer o domenni rwbel. Ond mae hanes hir o gloddio plwm yn yr ardal.

Roedd yn ôl pob tebyg yn mynd ymlaen ar raddfa fechan yn ystod y Canol Oesoedd a’r cyfnod Tuduraidd ond fe gyflymodd yn y 18fed ganrif pan ailddarganfuwyd gwaddodion cyfoethog o fwyn plwm.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’r enw Loggerheads ei hun yn tarddu o anghytundeb mwyngloddio chwerw o’r cyfnod hwn. Mae plac i’w weld o hyd uwchben y garreg derfyn ar yr A494 a godwyd ar ôl datrys ffrae rhwng teulu Grosvenor, a oedd yn berchen ar yr hawliau cloddio ym mhlwyf Llanferres, ac Arglwyddi’r Wyddgrug, a oedd yn berchen ar y rheini ym mhlwyf Yr Wyddgrug.

Rhygnodd yr anghytundeb ymlaen am flynyddoedd lawer cyn iddo gael ei benderfynu yn y diwedd o blaid Arglwyddi’r Wyddgrug. Mae’r ardal wedi’i hadnabod fel Loggerheads byth ers hynny.

Mae llawer o domenni rwbel yn dal yn aros ynghudd o dan lystyfiant er nad oes dim peiriannau cloddio ar ôl yn eu lle. Yr adeiladwaith mwyaf gweladwy ydy cafn olwyn carreg ger y bont bren yn Loggerheads. Roedd yn arfer dal olwyn ddŵr 40 troedfedd ar ei thraws.

Roedd dŵr yn cael ei ddefnyddio i yrru nifer o felinau ar Afon Alun, yn cynnwys Melin y Pentre, sydd wedi’i hadfer, nesaf at y gerddi te, sy’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif o leiaf. Roedd y felin yn malu ŵd yn wreiddiol ond daeth yn felin lifio yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ychwanegwyd dynamo yn y 1920au i gynhyrchu trydan ar gyfer cartrefi lleol.

Mae llif Afon Alun, sy’n rhedeg hyd y parc, yn amrywiol iawn. Mewn cyfnodau o lawiad isel mae’r dŵr yn enwog iawn yn diflannu i lyncdyllau naturiol yng ngharreg galch gwely’r afon ac yn llifo i system ogofâu tan ddaear ychydig i’r gogledd o Loggerheads.

Mae llwybr poblogaidd y Lît yn dilyn llwybr hen “ddyfrffos” fwyngloddio neu gwrs dŵr a oedd yn arwain dŵr yn wreiddiol o Afon Alun i olwyn ddŵr dair milltir i ffwrdd a oedd yn gyrru peiriannau i ddraenio’r mwyngloddiau lleol.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?