Tŵr y Jiwbilî

Tŵr y Jiwbilî

  • The Jubilee Tower in Edwardian Times
    The Jubilee Tower in Edwardian Times
  • Moel Famau, Mynedfa wedi'i hadfer i Dwr y Jiwbilî

Wedi’i adeiladu ar gyfer jiwbilî aur Brenin Siôr III “gwallgof” dros 200 mlynedd yn ôl, newidiodd y tŵr jiwbilî broffil Moel Famau. Gosodwyd y garreg sylfaen gyda ffanffer fawr ar ddydd Iau, 25ain Hydref 1810. Yr adeg honno, fodd bynnag, doedd yna ddim cynllun wedi’i gytuno.

Roedd y dyluniad terfynol gan Thomas Harrison yn goeth a thrawiadol, Yn y adeilad yn yr arddull Eifftaidd a fyddai’n ffasiynol ymhen fawr o dro – sylfaen hirsgwar gyda phedwar bastiwn a drysau ar osgo, y gellir ei weld o hyd heddiw, gydag obelisg ar ei ben.

Bu ymgecru wedyn ynghylch diffyg arian a gwaith gwael a chafodd yr adeilad ond ei orffen, i gynllun llai crand, yn 1817. Erbyn 1846 roedd un gornel wedi dymchwel ac roedd y pwyntio wedi dirywio. Codwyd arian ar gyfer atgyweiriadau ond roedd mwy o ddifrod yn amlwg erbyn 1856.

Roedd y dirywiad yn gyflym ac yn 1862 cwympodd yr obelisg gyda chlec aruthrol, yn ystod y gosteg yn dilyn gwynt mawr a oedd wedi para am ddau ddiwrnod. Gellid ei glywed mor bell i ffwrdd â lawnt Castell Dinbych.

Dros y degawdau dilynol methodd amrywiol gynlluniau ailadeiladu oherwydd diffyg arian a chefnogaeth.

Ni wnaethpwyd dim tan 1969 pan benderfynodd cangen Dinbych a Fflint o Gymdeithas y Tirfeddianwyr mai’u cyfraniad nhw at Flwyddyn Cadwraeth Ewrop 1970 fyddai tacluso’r adfeilion a’u diogelu rhag dirywio ymhellach.

Yn 1974 gwnaethpwyd Moel Famau yn Barc Gwledig gan Gyngor Sir Clwyd ac yn 1985 dynodwyd Bryniau Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Yn 1995 rhestrwyd Tŵr y Jiwbilî gan Cadw i roi nodded gyfreithiol iddo oherwydd ei arwyddocâd pensaernïol a diwylliannol.

Mae Moel Famau ac adfeilion Tr y Jiwbilî yn darparu cefnlen ddramatig i fywydau dyddiol cymunedau Sir y Fflint a Sir Ddinbych fel ei gilydd. Maent yn rhoi ymdeimlad cryf o le ir ardal ac yn fegwn i ymwelwyr o Sir Gaer, Glannau Mersi ac ymhellach i ffwrdd.

Mae copa Moel Famau yn lle i ddychwelyd iddo drosodd a throsodd. Mae’r dringo ato dros weundir bryniog gyda golygfeydd eang, agored yn gadael argraff barhaol. Ac mae Tŵr y Jiwbilî, sydd mor amlwg yn y dirwedd, yn ein hatgoffa o ddiwrnodau allan, picnics ac ymdeithiau braf.

Mae gwaith arolwg diweddar a gomisiynwyd gan Sir Ddinbych a Sir y Fflint wedi llwyddo i gadarnhau maint a chyflwr rhannau gwreiddiol y tŵr sydd ar ôl – ac wedi clustnodi mannau sydd ag angen eu hatgyfnerthu ymhellach.

Mae’r traddodiad o gynnal dathliadau diwylliannol mawr ar ben Moel Famau wedi parhau gyda thyrfaoedd yn ymgasglu ar gyfer priodasau a jiwbilïau Brenhinol. Yn 2007 roedd y tŵr yn ganolbwynt dathliadau’n gysylltiedig â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug.

Y flwyddyn ganlynol nodwyd y cysylltiadau cryf rhwng yr ardal hon a Lerpwl pan ddadorchuddiwyd “Moelfamalambanana”, a addurnwyd gan blant ysgol lleol, i ddathlu cyfnod y ddinas fel Prifddinas Diwylliant Ewrop.

Ac yn 2010 dringodd miloedd o bobl i nodi daucanmlwyddiant Tŵr y Jiwbilî gyda noson fythgofiadwy o dân gwyllt, laserau a cherddoriaeth.

Yn 2013, gwnaed gwaith i ddatgelu un o’r rhagfuriau gwreiddiol a gwella mynediad i frig y Tŵr. Y rhagfur a ddewiswyd oedd yr un oedd yn fwy tebyg o fod yn gyfan o dan y ddaear a’r rwbel. Roedd yn gyfan a chafodd grisffordd silindrog ei ddatgelu, sydd nawr yn agored ar gyfer mynediad am y tro cyntaf ers 1815. Y gwaith cerrig sydd nawr yn weladwy yw’r gwreiddiol a chafodd ei ailbwyntio gyda morter calch fel rhan o’r gwaith hwn.

Yn 2014 gofynnwyd i’r tîm AHNE fod yn rhan o brosiect cenedlaethol i oleuo begynau mewn lleoliadau eiconig ar draws y DU i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines. Cafodd y prosiect ei gydlynu gan Brif Feistr Pasiant y Frenhines a chafodd Thŵr y Jiwbili, ynghyd â chopa’r Wyddfa ei ddewis fel lleoliad tŵr angor yng Ngogledd Cymru, oedd yn golygu ei fod yn un o’r rhai cyntaf i gael ei oleuo. Cafodd begwn silindrog, wedi’i oleuo gyda llosgwyr nw y ei adeiladu ar frig y tŵr a chynhaliwyd dathliad gyda cherddoriaeth a dawns, bwyd a diod ei gynnal ar gopa Moel Famau ar noson glir yn yr haf.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2021 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?