Y Cyswllt a Lerpwl

Y Cyswllt a Lerpwl

  • Flowers at Loggerheads Country Park

Mae Loggerheads wedi denu ymwelwyr ers cyfnod Victoria. Yn nechraur 20fed ganrif dechreudd Crosville Motor Services redeg bysus rheolaidd i Loggerheads o Benbedw ac yn 1926 bu iddynt brynu 74 erw o Ystâd Loggerheads iw datblygu fel cyrchfan i ymwelwyr.

Fe wnaethant sefydlu Gerddi Te Crosville, gan adeiladu tŷ te mawr, ychwanegu bandstand, lawnt bytio ac atyniadau eraill ac agor y coedydd a glan yr afon i ymwelwyr.

Yn ei anterth deuai’r gwasanaeth bws â miloedd o drigolion Glannau Mersi i Loggerheads ar benwythnosau’r haf. Disgynnodd niferoedd y teithwyr yn raddol wrth i berchenogaeth ceir gynyddu yn ystod y Chwedegau ac yn 1974 gwerthodd Crosville y tir i Gyngor Sir Clwyd County, rhagflaenwyr Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, a’i datblygodd a’i agor fel parc gwledig.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’r ddau gyngor yn dal yn gydberchnogion arno ac yn ei ariannu ar y cyd– a chaiff ei reoli gan tîm yr AHNE.

Roedd yr ardal hefyd yn lloches croesawgar i blant yn ystod y rhyfel ac roedd y cyswllt hwnnw yn parhau gyda theuluoedd yn ymweld ar ôl y rhyfel a miloedd o blant ysgol yn ymweld â Cholomendy. Mae Loggerheads yn parhau â chysylltiad arbennig gyda phobl Lerpwl a Glannau Mersi. Mae llawer yn parhau i ddychwelyd ar deithiau dyddiol ac mae eraill wedi setlo yma i weithio neu ymddeol.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?