Moel Findeg

Moel Findeg

Roedd pobl Maeshafn yn meddwl y byd o’u mynydd, a bu iddyn nhw helpu i godi £456,000 i brynu’r mynydd a’i achub rhag cael ei chwarela. Rŵan mae’r mynydd yn warchodfa natur leol 56 erw ac yn enghraifft unigryw o rostir yr iseldir ar uchder. Mae’r AHNE yn rheoli’r warchodfa mewn partneriaeth â Chyfeillion Moel Findeg a llawer o gymorth gan wirfoddolwyr.

Mae’r rhostir bellach yn cael ei reoli gyda chymorth gre o ferlod pori er lles cadwraeth, yn wreiddiol o’r Carneddau yng Ngogledd Eryri. Mae’r merlod lled-fferal yn gwneud yn dda iawn ar dir anodd ac yn helpu i bori’r rhywogaethau cryfaf er mwyn caniatáu i rywogaethau’r rhostir ffynnu.

Os cewch chi gyfle, ewch am dro i gopa Moel Findeg – chewch chi ddim eich siomi. Yma fe gewch chi’r golygfeydd gorau yn Sir Ddinbych. Mae’r llwybrau igam-ogam cul yn eich tywys chi drwy goetir bedw ac allan i ros agored.

Mae’r golygfeydd yn ymestyn ar draws Ddyffryn Alun i gopa Moel Famau. I’r dwyrain fe gewch chi olygfeydd di-dor o Sir y Fflint hyd at Lannau Mersi a gwastadeddau Swydd Gaer. Mae’r copa ei hun, a elwir yn Gadair yr Esgob, ym meddiant ffermwr lleol ond mae yna lwybr caniataol yn ei groesi.

Roedd unwaith yn fan prysur, ond rŵan mae’n llawn trysorau cudd. Yn cuddio yn y coetir a’r rhostir mae olion hen chwareli a mwyngloddiau plwm.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?