Noson ar y Carped Coch

Noson ar y Carped Coch

Cafodd disgyblion Ysgol y Gwernant, Llangollen, a’u teuluoedd droedio’r carped coch yr wythnos hon, wrth i ffilm arbennig a grëwyd gan ddosbarth blwyddyn 6 yr ysgol, sydd hefyd yn actio ynddi, gael ei dangos am y tro cyntaf yn Neuadd Tref Llangollen.

 

Mae’r ffilm, sef ‘Antur Teithio mewn Amser: Darganfod Camera Obscura Castell Dinas Brân, 1869 – 1910′ yn ganlyniad prosiect ffilm y bu’r disgyblion yn gweithio arno gyda phrosiect Ein Tirlun Darluniadwy, sef Cynllun Partneriaeth Tirlun a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

 

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae dosbarth blwyddyn 6 wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r gwneuthurwr ffilmiau, Rob Spaull, i ymchwilio, ysgrifennu, cynhyrchu ac actio yn y ffilm fer. Mae hon yn mynd â’r gwylwyr ar daith i’r gorffennol i ddarganfod hanes anhygoel Castell Dinas Brân ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig y Camera Obscura a safai ar frig y bryn yn edrych dros y golygfeydd godidog islaw, ac a oedd yn atyniad mawr i dwristiaid oedd yn ymweld â Dyffryn Dyfrdwy i chwilio am harddwch arbennig.

 

Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf i gynulleidfa o dros 100 o bobl, a chafodd y plant gerdded i mewn ar y carped coch, cael hwyl gyda bwth lluniau a mwynhau popcorn, cyn cael gwylio eu creadigaeth ar y sgrin fawr.

 

Yn yr un digwyddiad, lansiwyd ‘Hanes Bywluniedig Dyffryn Dyfrdwy’ hefyd, sef gwibdaith drwy Ddyffryn Dyfrdwy’r gorffennol a’r presennol, sy’n rhoi profiad i’r gwylwyr o olygfeydd a synau’r dirwedd drwy’r oesau.

 

Mae’r ddwy ffilm bellach ar gael i’w gwylio ar ein gwefan.

 

Ariannwyd prosiect Ein Tirlun Darluniadwy gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2025 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?