Adfer Wal Tramffordd Cei Dyffryn Glyn

Adfer Wal Tramffordd Cei Dyffryn Glyn

  • Glyn Valley Tramway Wharf Wall - Wal Tramffordd Cei Dyffryn Glyn
    Glyn Valley Tramway Wharf Wall - Wal
  • Glyn Valley Tramway Wharf Wall - Wal Tramffordd Cei Dyffryn Glyn
    Glyn Valley Tramway Wharf Wall - Wal Tramffordd Cei Dyffryn Glyn

Adfer treftadaeth ddiwydiannol leol ar y gweill

Yn ystod mis Mehefin 2021 bydd prosiect Ein Tirlun Darluniadwy yn parhau i adfer darn pwysig o’n treftadaeth gymunedol yn lleol ar hyd y llwybr ger y gamlas yn Y Waun.

Roedd Tramffordd Dyffryn Glyn yn rheilffordd gul oedd yn weithredol rhwng 1888 a 1935 i lawr Dyffryn Ceiriog at gyfnewidfeydd gyda Rheilffordd y Great Western a Chamlas Undeb Swydd Amwythig yn Y Waun. Cafodd cerrig mân a setiau carreg a gynhyrchwyd gan Gwmni Ceiriog Granite eu llwytho ar gychod yng nghei Tramffordd Dyffryn Glyn.

Y wal yw’r nodwedd olaf sy’n bodoli o’r cei, ac mae mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd. Bydd y gwaith yn golygu glanhau arbenigol er mwyn datgelu’r patrwm lliwgar yn y gwaith brics ac ailosod y morter calch sydd yn dal y brics gyda’i gilydd.

Caiff ei ariannu trwy Gronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru ac mae’n cael ei gyflawni trwy gynllun partneriaeth Ein Tirlun Darluniadwy.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?