Ceidwaid Ifanc Dyffryn Dyfrdwy

Ceidwaid Ifanc Dyffryn Dyfrdwy

  • Ceidwaid Ifanc yn coginio dros dân / Young Rangers cooking on a fire
    Ceidwaid Ifanc yn coginio dros dân / Young Rangers cooking on a fire
  • Ceidwaid Ifanc ym Mhen y Pigyn / Young Rangers at Pen y Pigyn
    Ceidwaid Ifanc ym Mhen y Pigyn / Young Rangers at Pen y Pigyn
  • Ceidwaid Ifanc yn tocio coed / Young Rangers pruning trees
    Ceidwaid Ifanc yn tocio coed / Young Rangers pruning trees
  • Ceidwaid Ifanc yn cael picnic / Young Rangers having a picnic
    Ceidwaid Ifanc yn cael picnic / Young Rangers having a picnic

Ceidwaid Ifanc Dyffryn Dyfrdwy

 Eisiau helpu natur? 11 – 18 oed? Os felly, beth am ymuno efo Ceidwaid Ifanc Dyffryn Dyfrdwy?

Rydym ni’n ailgynnull Grŵp Ceidwaid Ifanc Dyffryn Dyfrdwy ar ôl saib hir oherwydd Covid-19. Mae’r grŵp yn berffaith ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed sydd eisiau dysgu mwy am ein tirlun anhygoel, ymgymryd â thasgau cadwraeth ymarferol, cynnal arolygon bywyd gwyllt a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored llawn hwyl.

Sefydlwyd y grŵp yn wreiddiol yn 2012, ac mae llawer o’r ceidwaid cyntaf yn dal i wirfoddoli neu hyd yn oed yn gweithio i’r Gwasanaeth Cefn Gwlad heddiw.

Rydym ni’n cwrdd unwaith y mis, gyda digwyddiadau 4 neu 6 awr. Mae’n rhaid i chi wisgo dillad addas, yn cynnwys dillad glaw ac esgidiau call. Dewch â bwyd a diod efo chi hefyd, ond rydym ni’n aml iawn yn darparu siocled poeth ac yn coginio dros dân.

Mae ein digwyddiad cyntaf yng Nghoed Pen y Pigyn, Corwen, ddydd Mercher 27 Hydref o 10am tan 3pm. Byddwn yn tocio coed conwydd i wneud lle i goed derw brodorol dyfu. Ar ôl cinio a ‘chydig o goginio dros dân, bydd yr artist lleol Jude Wood yn ymuno efo ni i greu ychydig o gelf goedwig.

Os hoffet ti ymuno efo ni, anfona neges i ros.stockdale@sirddinbych.gov.uk, ac fe wnawn ni anfon y ffurflen gofrestru atat ti.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?