Dathliad Artist Preswyl

Dathliad Artist Preswyl

  • Digwyddiad dathlu Artist Preswyl / Artist in Residence celebration event
    Digwyddiad dathlu Artist Preswyl / Artist in Residence celebration event
  • Arddangosfa awyr agored yn Wenffrwd / Outdoor exhibition at Wenffrwd
    Arddangosfa awyr agored yn Wenffrwd / Outdoor exhibition at Wenffrwd

Trwy gydol 2021, cynhaliodd Ein Tirlun Darluniadwy 4 prosiect Artistiaid Preswyl yn Nyffryn Dyfrdwy. Roedd yn bleser gennym ddathlu ein hartistiaid heddiw, sydd wedi creu casgliad amrywiol o farddoniaeth, ffotograffiaeth a rhyddiaith ac mae’r cyfan wedi’i ysbrydoli gan bobl, treftadaeth a golygfeydd hyfryd y tirwedd.

 

Rhoddodd James Hudson ragolwg i ni o’i lyfr, naratif ffuglennol yn seiliedig ar y thema o ‘undod’, synnwyr o gysylltiad, ar ffurf geiriau a lluniau amgen o Ddyffryn Dyfrdwy.  Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd copïau o lyfr James ar gael mewn lleoliadau cymunedol ar draws yr ardal.

 

Darllenodd Sian Northey ychydig o’i barddoniaeth, a oedd yn seiliedig ar Dyfrbont Y Waun ac Abaty Glyn y Groes, ac wedi’i ysbrydoli gan y gweithdai ysgrifennu creadigol yr oedd hi wedi’u darparu â dysgwyr Cymraeg yn y gymuned yn gynharach yn y flwyddyn. Bydd Sian yn darparu rhagor o weithdai yn yr wythnosau nesaf a fydd ar gael i ddysgwyr o bob lefel.

 

Mwynhaodd y gwesteion farddoniaeth gan Hywel Griffiths hefyd drwy ei deithiau ar-lein o’r chwe lleoliad y mae ei waith yn seiliedig arnynt. Bydd codau QR yn ymddangos yn y safleoedd hyn yn fuan i ymwelwyr ddarganfod y teithiau hyn eu hunain, a bydd Hywel hefyd yn perfformio ei farddoniaeth mewn digwyddiad cymunedol am ddim yn Neuadd Bentref Glyndyfrdwy ar 26 Hydref.

 

Lansiwyd arddangosfa o waith Jessica a Philip Hatcher-Moore yn y digwyddiad hefyd. Mae ‘Custodians’ yn cyflwyno cyfres o gyfarfodydd gyda phobl sy’n byw ac yn gofalu am Ddyffryn Dyfrdwy, ysbrydolwyd y prosiect gan berthnasoedd yr arlunwyr gyda’r ardal, sydd wedi datblygu ymhellach yn ystod y Coronafeirws.  Bydd modd gweld yr arddangosfa yng Ngwarchodfa Natur Wenffrwd drwy gydol mis Hydref, felly ewch i’w fwynhau os ydych yn ymweld â’r safle.

 

Os hoffech chi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein Hartistiaid, gan gynnwys lle i ddod o hyd i’w gwaith a sut i gymryd rhan mewn digwyddiadau, dilynwch dudalennau Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar y cyfryngau cymdeithasol #EinTirlunDarluniadwy.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?