Rheoli’r Coetir Pontcysyllte

Rheoli’r Coetir Pontcysyllte

  • Coetir o amgylch Dyfyrbont Pontcysyllte | Woodland beneath Pontcysyllte Aqueduct
    Coetir o amgylch Dyfyrbont Pontcysyllte | Woodland beneath Pontcysyllte Aqueduct
  • Dyfrbont Pontcysyllte Aqueduct
    Dyfrbont Pontcysyllte Aqueduct
  • Dyfrbont Pontcysyllte / Pontcysyllte Aqueduct
    Dyfrbont Pontcysyllte / Pontcysyllte Aqueduct

Fel rhan o’n prosiect Ein Tirlun Darluniadwy a ariennir gan y Loteri yn Nyffryn Dyfrdwy, byddwn yn dechrau gwneud gwaith rheoli’r coetir yn y coetir o amgylch Dyfyrbont Pontcysyllte y gaeaf hwn.

Yn dilyn ystyriaethau gofalus bydd rhai o’r coed yn cael eu tynnu, a fydd yn arwain at fwy o amrywiaeth o ran oedrannau coed. Bydd y coetir, y bywyd gwyllt a phobl yn elwa ar hyn gan y bydd golygfeydd newydd, cynnil yn cael eu datgelu ar hyd a lled y Safle Treftadaeth y Byd. Mae’r gwaith yn cynnwys bondocio llwyni aeddfed, teneuo rhai coed a thorri cyffion ansad sy’n agos at lwybrau.

Mae’r Cynghorau Cymuned, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cytuno â’r gwaith. Am fwy o wybodaeth am ein dull o reoli coetiroedd, cliciwch yma.

Dyma fydd rhan gyntaf y gwaith parhaus o reoli’r coetir yn Nhraphont Ddŵr Pontcysyllte ac mae’n rhan allweddol o amcanion cadwraethol Ein Tirlun Darluniadwy.  Am fwy o wybodaeth anfonwch neges i ein.tirlun.darluniadwy@sirddinbych.gov.uk.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?