Bryngaer: Caer Drewyn

Bryngaer: Caer Drewyn

  • View of Caer Drewyn

Mae Caer Drewyn, un or bryngaerau Oes Haearn gorau ei gyflwr yng Nghymru, yn edrych dros ddyffryn hardd Edeyrnion.

Mae hyn yn ei gwneud hi’r un fwyaf deheuol yn ein cadwyn o fryngaerau, yn sefyll ar esgair orllewinol y grib sy’n rhedeg rhwng Llangollen a Chorwen – nid ar y rhan uchaf ond ar lechwedd uwchben man cyfarfod afon Dyfrdwy ac afon Alwen.

Lloc bychan a wedi’i adeiladu yn erbyn y sgarp naturiol oedd y gaer fechan gyntaf yma. Heddiw ’dyw ond i’w gweld yn rhannol fel clawdd a glaswellt drosto. Gellir olrhain y fryngaer ddiweddarach, fwy trwy wal gerrig sych – nid oes gan Gaer Drewyn gloddiau pridd a ffosydd fel bryngaerau lleol eraill.

Mae’r rhagfuriau cerrig hyn yn amgáu arwynebedd o dri hectar. Mae dwy fynedfa fewndro. Mae’n ymddangos fod gan un ohonynt, ar fan uchaf y safle yn y gornel gogledd-ddwyreiniol, warchotgell bosibl. Mae’r llall i’r gorllewin yn cynnwys sylfeini adeiladau petryal.

Mae yna loc allanol, neu estyniad, sy’n cynnwys sylfeini cerrig llwyfan cwt posibl.

Oeddech chi’n gwybod?

Roedd Caer Drewyn yn dal i gael ei defnyddio ymhell ar ôl i’r Oes Haearn ddod i ben. Dywed chwedl i Owain Gwynedd, Tywysog hunangyhoeddedig Cymru ei defnyddio, tra oedd Harri’r II yn gwersyllu ar y Berwyn. Credir hefyd mai dyma’r safle ble casglodd Owain Glyndŵr ei filwyr ar ôl iddo gyhoeddi ei hun yn Dywysog Cymru yn 1400.

Sonnir am Gaer Drewyn gyntaf gan Edward Lhwyd yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg [i] fel “a place where they kept their cattle in war time” ac fe’i disgrifir hefyd gan Thomas Pennant [ii] tra oedd ar ei daith o gwmpas Cymru.

Archwiliwyd y safle o ddifrif gyntaf gan y Parchedig Hugh Pritchard yn 1887 [iii]. Bu iddo glirio’r rhagfur cerrig sych i ddatgelu wal gadarn oedd rhwng 5 a 7 metr o drwch.

Archwiliodd Willoughby Gardner y wal gerrig sych yn y 1920au [iv] a chyhoeddodd doriadau a ffotograffau o’i hadeiladwaith ond ni wnaeth gloddio. Fel Pennant mae’n sôn am y pantiau crwn yn y wal ac yn awgrymu y gallent fod yn gocynau grugieir.

Yn yr History of Merionethshire o 1967, mae Bowen a Gresham yn awgrymu bod y safle wedi’i ddatblygu mewn pedwar cam [v].

Hyd y gwyddon ni fu dim cloddio ar Gaer Drewyn o’r blaen. Yn 1993 a 1994 bu i astudiaeth o gennau ar furiau’r fryngaer enwi 60 o wahanol rywogaethau, mae rhai ohonynt yn brin yn lleol.

Yn 2006 gwnaeth Engineering Archaeological Services (EAS) arolwg topograffig a ganfu wyth o lwyfannau cytiau posibl y tu mewn i’r prif loc ynghyd â chyfnodau posibl ar gyfer adeiladu’r fryngaer.

[i] Edward Lhwyd Parochialia

[ii] T.Pennant Tours in Wales

[iii] Rev. Pritchard 1887 Archaeologica Cambrensis

[iv] W Gardner 1922 Archaeologica Cambrensis 108-125

[v] Bowen and Gresham 1967 History of Merioneth

Sut i gyrraedd yno

Mae’r parcio agosaf wrth y pwll nofio lleol ar y B5437 gyferbyn â’r bont dros Afon Dyfrdwy ar y ffordd o Gorwen (A5). Gellir cyrraedd y safle ar hyd llwybr cyhoeddus sydd ag arwyddion clir ar ochr ogleddol y B5437 yn union i’r dwyrain o’r pwll nofio. Mae’r llwybr yn dilyn lôn dda sy’n ymdroelli islaw ochr orllewinol y fryngaer. Yna mae’n gwyro’n sydyn i’r dde, i fyny’r ystlys orllewinol, ar hyd tu allan y rhagfur deheuol ac i’r llidiart gogledd-ddwyreiniol.

OS map: Explorer 256 neu 255
OS. Cyfeirnod Grid: SJ087444

Dadlwythiadau Defnyddiol

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?