Llyfr Newydd Dyffryn Dyfrdwy

Llyfr Newydd Dyffryn Dyfrdwy

A fascinating new book entitled Dee Valley:

Mae llyfr diddorol newydd o’r enw Dyffryn Dyfrdwy: Creu Ein Tirlun Darluniadwy nawr ar werth yn lleol ar ôl cael ei lansio’n swyddogol yn Llyfrgell Llangollen ddydd Mawrth 12 Rhagfyr.

Mae’r llyfr, sydd wedi’i greu gan brosiect Ein Tirlun Darluniadwy a’i ysgrifennu gan yr awdur lleol, Jessica Hatcher-Moore, yn mynd â’r darllenwyr ar daith weledol o dirluniau ysbrydoledig Dyffryn Dyfrdwy, ac mae’n cynnwys straeon am gymeriadau dylanwadol a digwyddiadau sydd wedi ffurfio’r ardal dros y 400 mlynedd diwethaf.

Mae’r llyfr bach yn cynnwys rhai o’r darnau celf anhygoel sydd wedi’u hysbrydoli gan Ddyffryn Dyfrdwy darluniadwy dros y canrifoedd, gan gynnwys rhai gan arlunwyr byd-enwog fel Richard Wilson, Paul Sandby a J.M.W. Turner, yn ogystal ag arlunwyr lleol cyfoes sy’n dal i gael eu hysbrydoli gan Ddyffryn Dyfrdwy heddiw. Mae cyfres o gardiau post a ffotograffau hanesyddol o’r ardal wedi’u cynnwys, a rhai o’r disgrifiadau ysgrifenedig a cherddi hardd sydd wedi’u cyfansoddi am Ddyffryn Dyfrdwy dros y blynyddoedd.

Bydd modd prynu’r llyfr mewn lleoliadau lleol gan gynnwys Tŷ Hanesyddol Plas Newydd, Canolfan Groeso Llangollen, Canolfan Ymwelwyr Wrecsam, a Pharc Gwledig Loggerheads ymhlith eraill, a gan mai nifer gyfyngedig fydd ar gael, argymhellir bod unrhyw un sydd â diddordeb yn prynu eu copi’n gynnar i osgoi cael eu siomi!

Mae’r llyfr wedi’i gomisiynu trwy brosiect Ein Tirlun Darluniadwy, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dywedodd Hannah Marubbi, Swyddog Partneriaeth Ein Tirlun Darluniadol:

“Mae Dyffryn Dyfrdwy wedi chwarae rôl mor hanesyddol sylweddol yn y mudiad celf Darluniadwy a’r Chwyldro Diwydiannol, a gyda’r llyfr hwn, rydym yn falch o allu rhannu straeon o ran sut mae’r ddwy agwedd wahanol iawn hyn wedi cyfuno i ffurfio Dyffryn Dyfrdwy heddiw. Rydym yn falch iawn o’r llyfr hwn, sy’n darlunio tirweddau newidiol Dyffryn Dyfrdwy yn hyfryd, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am y cyllid sydd wedi sicrhau bod ein prosiect, a’r llyfr hwn, yn bosibl.

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Rydw i’n falch iawn o glywed am lansiad y llyfr newydd hwn a luniwyd gan ein prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’. Mae’r llyfr yn cynnig cyfle gwych i ddarllenwyr ddysgu rhagor am hanes cyfoethog Dyffryn Dyfrdwy, yn ogystal â dathlu’r artistiaid sy’n parhau i gael eu hysbrydoli gan harddwch y Dyffryn hyd heddiw. Prosiectau fel hyn sy’n chwarae rôl hollbwysig wrth amlygu’r hanes a’r diwylliant gwych yr ydym yn falch o’u cael yma yn Sir Ddinbych.”

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?