Artist Preswyl

Artist Preswyl

  • *bridge on llangollen canal
    Camlas Llangollen - Llangollen Canal
  • Dyfrbont Pontcysyllte / Pontcysyllte Aqueduct
    Dyfrbont Pontcysyllte / Pontcysyllte Aqueduct

Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy
Artist Preswyl
Ionawr 2021 – Hydref 2021

Mae harddwch Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth i artistiaid, beirdd a llenorion ers canrifoedd. Er mwyn parhau â’r traddodiad hwn, cynhaliodd prosiect Ein Tirlun Darluniadwy bedwar sesiwn Artist Preswyl â thema lenyddol yn 2021, ac mae’n bleser gennym rannu’r artistiaid a fu’n gweithio gyda ni:

Hywel Griffiths: Bardd Cymraeg a daearyddwr yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yw Hywel Griffiths. Mae’n brifardd y goron a’r gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac enillodd ei gyfrol ddiweddaraf – Llif Coch Awst – gategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn. Mae ei ddiddordebau academaidd yn cynnwys perthynas pobl â’r dirwedd, llifogydd a phrosesau afonol, a chydweithio rhwng gwyddoniaeth a’r celfyddydau.

Mae Hywel wedi gweithio i greu taith farddoniaeth rith-wirionedd o Ddyffryn Dyfrdwy, yn cynnwys cerddi wedi’u hysbrydoli gan chwe lleoliad o amgylch yr ardal.  Cadwch lygad am y codau QR ar eich ymweliad nesaf.

Gwefan, Instagram: hywelgriffiths1983
Twitter: @HywelGriffiths

Jessica and Philip Hatcher-Moore: Mae Jessica a Philip yn ŵr a gwraig sy’n byw yn Nyffryn Dyfrdwy. Mae Jessica yn newyddiadurwr, awdur ac awdur taith arobryn a fu’n gweithio i’r Guardian yn Nwyrain Affrica am bum mlynedd cyn ymgartrefu yng ngogledd Cymru. Nodweddir ei straeon gan leisiau nad ydynt yn cael eu clywed, a phethau annhebygol; bydd llyfr cyntaf Jessica, After Birth, sy’n trafod gwella ar ôl rhoi genedigaeth, yn cael ei gyhoeddi gan Profile ym mis Mai 2021. Mae Philip yn ffotograffydd sy’n byw ar ochr bryn yng ngogledd Cymru. Mae ei waith, sydd wedi’i gydnabod gan sawl gwobr ac arddangosfa ryngwladol, yn archwilio perthynas cymdeithas â’r tirlun a’r amgylchedd, ac yn cwmpasu mwy na degawd o groniclo ar draws y byd.

Mae’r pâr wedi cynhyrchu ‘Gwarcheidwaid Dyffryn Dyfrdwy’, arddangosfa o baneli deongliadol gyda ffilmiau byrion a lluniau yn tynnu sylw at bwysigrwydd y rhai sydd yn edrych ar ôl tirlun Dyffryn Dyfrdwy.  Mae’r arddangosfa i’w gweld ar dir Plas Newydd yn Llangollen.

Gwefan: www.jessicahatcher.com | www.philmoore.info
Instagram: @jessicajanehatcher | @philmoorephoto
Twitter: @jessiehatcher | @fil

James Hudson: Mae James yn Artist Gweledol sy’n gweithio ar brosiectau lled-ffuglennol sy’n cyfuno ffotograffiaeth wreiddiol, testun a collage. Mae ei brosiectau fel arfer yn gomisiynau neu’n breswyliadau i sefydliadau a brandiau diwylliannol.

Gallwch gael gafael ar gopi o’i gylchgrawn creadigol ‘Vale Voices’ ym Mhlas Newydd yn Llangollen.

Gwefan, Instagram: @jamesahudson, Behance: www.behance.net/jamesahudson

Sian Northey: Mae Sian yn fardd, awdur, cyfieithydd ac arweinydd gweithdai. Mae’n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Cylchoedd (Gwasg y Bwthyn, 2020), casgliad o straeon byrion gyda lluniau gan y ffotograffydd Iestyn Hughes.

Mae Sian wedi ysgrifennu casgliad o gerddi a rhyddiaith am bedwar lleoliad yn Nyffryn Dyfrdwy; Plas Newydd, Castell Dinas Brân, Abaty Glyn y Groes a Thraphont Ddŵr a Thwnnel Y Waun.  Mae Bonnie Hawkins wedi creu darluniau i gyd-fynd â’i gwaith mewn cyfres o ffilmiau sydd yn dal bregusrwydd y tirlun yn ei cherddi.

Twitter: @siannorthey

Bydd y preswyliadau’n archwilio’r cysylltiadau rhwng pobl a llefydd, ddoe a heddiw. Drwy gydol y flwyddyn bydd yr artistiaid yn treulio amser yn nhirluniau Dyffryn Dyfrdwy ac yn cyfarfod â’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno. Bydd eu gwaith, fydd yn cynnwys barddoniaeth, llenyddiaeth, y gair llafar a chelf weledol, yn cael ei greu mewn ymateb i’r profiadau hyn ac yn cael ei rannu â thrigolion ac ymwelwyr â’r ardal mewn arddangosfeydd, perfformiadau, mewn print ac yn ddigidol.

Byddwn yn postio diweddariadau am y preswyliadau drwy gydol y flwyddyn felly dilynwch brosiect #EinTirlunDarluniadwy ar y cyfryngau cymdeithasol (@Clwyd_Dee_AONB) er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadau a gweithgareddau fydd yn digwydd.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?