Ein Tirlun Darluniadwy

Ein Tirlun Darluniadwy

  • Corwen Peace Eisteddfod
    Corwen Peace Eisteddfod
  • Dry Stone Walling
    Dry Stone Walling

Mae Ein Tirlun Darluniadwy yn brosiect cyffrous sy’n rhoi sylw i dirlun Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte. Ei thema yw’r teithiau ysbrydoledig a fu ac sy’n parhau i fod yn nodwedd o’r ardal o amgylch Camlas Llangollen, A5 Thomas Telford a’r Afon Ddyfrdwy.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae ymwelwyr wedi eu hysbrydoli gan weithiau celf a barddoniaeth o’r dyffryn hwn ers am ganrifoedd ac mae’n parhau i ddenu ymwelwyr sy’n chwilio am yr archuchel.

Nod y prosiect yw ailgysylltu’r cymunedau sydd ar garreg ei ddrws, a nifer ohonynt wedi tyfu o’r ymdrechion diwydiannol a siapiodd yr ardal ond sydd bellach wedi pellhau oddi wrth y manteision y mae’r tirlun yn ei gynnig. Bydd hefyd yn buddsoddi yng ngwydnwch safleoedd ymwelwyr allweddol, ac yn amddiffyn ein safleoedd mwyaf bregus, sydd dan bwysau oherwydd y cynnydd yn niferoedd yr ymwelwyr.

Mae 5 prif bwnc sy’n rhan o’r prosiect:

  1. Amddiffyn nodweddion y dreftadaeth naturiol a hanesyddol drwy gadwraeth a rheoli mynediad
  2. Adfer golygfeydd eiconig sy’n diffinio’r sefydliad darluniadwy
  3. Dehongli arwyddocâd treftadaeth y tirlun darluniadwy i’r bobl
  4. Cysylltu gyda chynulleidfaoedd targed er mwyn rhannu a chynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rinweddau arbennig y tirlun
  5. Cysylltu ac ailgysylltu cymunedau lleol gyda’r tirlun

Mae Ein Tirlun Darluniadwy yn brosiect partneriaeth lle mae’r holl bartneriaid yn cael eu cynrychioli ar grŵp llywio’r prosiect ac maen nhw’n rhan weithgar o ddatblygiad y prosiect.

Gellir gweld mwy o wybodaeth am y themâu a’r prosiectau a gyflwynwyd hyd ar y tudalennau canlynol:

Crynodeb o’r Prosiect: Mynediad

Crynodeb o’r Prosiect: Cadwraeth

Crynodeb o’r Prosiect: Pobl

 

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?